Mae ymgynghoriaeth beirianyddol ac adeiladu sy'n arbenigo yn y sector gwyddorau bywyd wedi symud i Gaerdydd fel rhan o raglen ehangu yn dilyn pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae Scitech Engineering yn darparu gwasanaethau dylunio, peirianneg, adeiladu a dilysu ar gyfer y diwydiannau fferyllol a biodechnoleg. Cafodd ei sefydlu yn 2002 ac mae ganddo bellach drosiant o £18 miliwn a dros 130 aelod staff.
Mae'r cwmni wedi mwynhau cyfnod arall o dwf ac wedi i'w rhestr o gleientiaid ar hyd goridor yr M4 a'r M5 ac yn Ne Cymru gynyddu, ac yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, penderfynodd y cwmni leoli ei swyddfa newydd ym Mhorth Caerdydd.
Roedd y ffaith i Scitech symud i Gymru yn rhannol o ganlyniad i gynnig Llywodraeth Cymru o gymorth ariannol parhaus dros dair blynedd fydd yn helpu i sicrhau 20 o swyddi ychwanegol â sgiliau, ac sy'n talu'n dda, dros 3 blynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Dwi'n falch iawn bod Scitech, o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi dewis Caerdydd fel lleoliad ar gyfer ei swyddfa newydd, gan ddod â 20 o swyddi â sgiliau sydd yn talu'n dda.
Fel a nodir yn fy Nghynllun Gweithredu Economaidd, dyma'r union fath o swyddi yr ydym yn awyddus i'w denu i Gymru er mwyn sicrhau bod ein heconomi yn barod at y dyfodol, ac i greu y sylfeini cryf rydym eu hangen i sicrhau twf economaidd cynhwysfawr."
Dywedodd Dave Grant, Rheolwr Gyfarwyddwr Scitech:
"Mae mentrau ariannol a chymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn sbardun allweddol i Scitech ddod i'r ardal. Pan gafodd yr ardal ei hasesu yn erbyn lleoliadau eraill, roedd y diddordeb a'r hyder a ddangoswyd yn Scitech gan dîm Llywodraeth Cymru wedi eu hysgogi i ymrwymo i safle yng Nghymru i ehangu."
Meddai David Jackson, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Scitech:
"Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn oherwydd y cyfleoedd y mae ein swyddfa newydd yng Nghaerdydd eisoes yn ei ddenu. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac i Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd sydd wedi bod yn werthfawr iawn wrth inni werthuso Cymru ac yn benodol ddewis Caerdydd ar gyfer ein swyddfa ddiweddaraf wrth i gwmni Scitech barhau i ehangu.Mae cymorth y ddau bartner yn parhau heddiw i sicrhau bod ein buddsoddiad yn llwyddiannus ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus yng Nghymru."
Mae Scitech yn gwmni byd-eang, gyda swyddfeydd yng Ngwlad Belg a'r Iseldiroedd, a phortffolio o gleientiaid amlwg, yn benodol yn yr ardal hon: BBI, BTG, Prifysgol Caerdydd, Convatec, GE Healthcare, Ortho Clinical Diagnostics a PCI Pharma Services - prosiect Scitech yn Nhredegar oedd yn enillydd gwobr ryngwladol ISPE am Integreiddio Canolfan yn 2014.
Ers 2012 mae wedi bod dan berchnogaeth Ymddiriedolaeth er Budd Cyflogeion: mae Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn rheoli'r cwmni ar ran y staff er lles hirdymor pob gweithiwr, gan sicrhau bod Scitech yn parhau i fod yn annibynnol ac yn canolbwyntio ar ddapraru Deilliannau Perffaith i'w cleientiaid.