Bu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn siarad â’r gymuned fusnes yn y canolbarth am yr heriau a’r cyfleoedd sy'n wynebu'r rhanbarth.
Mae'r ymweliadau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus Ysgrifennydd yr Economi i rymuso ac i gryfhau rhanbarthau Cymru, er mwyn i ffyniant gael ei ledaenu'n decach i bob rhan o Gymru.
Mae'r ffordd hon o weithio yn un sydd wedi'i hamlinellu'n glir yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi, a lansiwyd ym mis Rhagfyr.
Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi penodi tri Prif Swyddog Rhanbarthol, un ar gyfer y Canolbarth a Gorllewin Cymru, un ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac un ar gyfer Gogledd Cymru fel rhan o'i waith i rymuso rhanbarthau Cymru.
Swyddogaeth y Prif Swyddogion Rhanbarthol yw cysylltu a gwrando ar bartneriaid a throsglwyddo eu barn a'u buddiannau i Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r diwrnod o ymweliadau aeth Ysgrifennydd yr Economi, a Rhodri Griffitihs, Prif Swyddog Rhanbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru, i gwmni gofal iechyd rhyngwladol, PCI Pharma, sy'n cyflogi oddeutu 360 o bobl yn y Gelli Gandryll.
Aethant hefyd ar ymweliad â Cellpath, cwmni sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi cynnyrch a gwasanaethau i'r sector Patholeg Cellog, ac sy'n cyflogi 85 aelod staff yn ei ganolfan yn Y Drenewydd, a Wynnstay yn Llansantffraid, cyflenwyr cynnyrch amaethyddol sy'n gyflogwr mawr yn y Canolbarth.
Aeth Ysgrifennydd yr Economi i gyfarfod bwrdd crwn yn Y Drenewydd gyda busnesau lleol sy'n awyddus i ehangu yn yr ardal, ond sy'n pryderu a oes modd i'w hanghenion gael eu bodloni gan y cyflenwad presennol o eiddo masnachol.
Meddai Ken Skates:
"Dw i'n gwbl ymrwymedig i rymuso rhanbarthau Cymru ac i adeiladau ar eu cryfderau unigol er mwyn sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl yng Nghymru.
"Mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn cydnabod bod pob un o ranbarthau Cymru yn wynebu ei gyfleoedd a'i heriau ei hun, ac na fydd mynd ati i ddatblygu'r economi yn yr un ffordd ym mhob man yn ddigon i sbarduno'r twf economaidd y mae ei angen ar Gymru.
"Dw i wedi penodi tri o Brif Swyddogion Rhanbarthol er mwyn rhoi llais i'r rhanbarthau mewn Llywodraeth. Byddant yn gwrando ar bartneriaid lleol ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau ac yn adrodd yn ôl ar yr wybodaeth leol fydd yn helpu inni deilwra ein gwaith. Bydd ymweliadau a chyfarfodydd fel y rhai rydyn ni wedi'u mwynhau heddiw yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod.
"Un thema gyson a ddaeth o ymweliadau heddiw oedd y pryder lleol ynghylch y cyflenwad o eiddo masnachol o safon. Mae hwn yn fater o bwys, ac yn un sydd wedi'i nodi yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Byddwn yn gweithio nawr gydag awdurdodau lleol, Grŵp Gweithgynhyrchu y Canolbarth a Phartneriaeth Datblygu y Canolbarth, i fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y posibiliadau economaidd yn yr ardal yma o Gymru."
Fel rhan o'r broses barhaus o gyflawni y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, bydd Ysgrifennydd yr Economi a'r Prif Swyddog Rhanbarthol yn ymweld â busnesau eraill yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru yn y misoedd a ddaw.