Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi ail-ddatgan ei ymrwymiad i gydweithio â busnesau dros y blynyddoedd nesaf i gryfhau economi Cymru.
Wrth siarad mewn digwyddiad yn Moneypenny, ddaeth â busnesau ledled Gogledd Cymru at ei gilydd, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi ei fod eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio - mewn cydweithrediad â'r sector busnes - a fydd yn dymchwel y rhwystrau a'r ffiniau traddodiadol.
Meddai Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae fy Nghynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi glasbrint clir o sut y gallwn sbarduno twf cynhwysol a sicrhau bod yr economi yn addas at y dyfodol ym mhob rhan o Gymru.
"Gyda'r cynllun bellach wedi'i gyhoeddi, a'n Contract Economaidd a Chronfa Dyfodol yr Economi wedi'i lansio, a'n Comisiwn Gwaith Teg a'n Panel Arbenigol ar Awtomeiddio ar waith, rydym wedi gwneud cynnydd mawr gyda cam cyntaf gweithredu'r cynllun.
"Bellach rwyf yn canolbwyntio ar ddarparu amcanion ehangach y cynllun hwnnw a rhan o hyn yw dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio sy'n dymchwel y rhwystrau a'r ffiniau traddodiadol megis y rhai rhwng llywodraeth ac adrannau'r llywodraeth, rhwng awdurdodau lleol ac ar draws ffiniau.
"I mi, mae cam nesaf datganoli yng Nghymru yn golygu helpu busnesau i fasnachu, buddsoddi a datblygu eu pobl mewn ffyrdd creadigol sy'n hyrwyddo'r cydweithio newydd a pherthynas newydd ar draws ffiniau.
"Mae hyn yn her i'r Llywodraeth ac mae'n un yr wyf wedi ymrwymo i'w derbyn gyda busnesau, dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn cryfhau ein heconomi.
"Rwyf hefyd am barhau i ganolbwyntio ar gefnogi datblygiad rhanbarthau Cymru er mwyn sbarduno cyfleoedd newydd a thwf.
"Rydym yn gwybod na fydd yr un dull o weithio yn rhoi y twf economaidd yr ydym ei angen, ac roedd hyn yn amlwg iawn yn fy meddwl pan euthum ar ymweliad â Stena Line yng Nghaergybi, BioComposites yng Nghwalchmai, Bee Robotics yng Nghaernarfon a Siemens Healthcare yn Llanberis i glywed eu barn am y cyfleoedd a'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu Gogledd Cymru.
"Rwyf am greu partneriaeth wirioneddol fydd yn cyfoethogi ac yn grymuso'r economi leol ac yn goresgyn rhwystrau. Gweithio mewn partneriaeth fel a ddangoswyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Wrecsam a Phrifysgol Glyndwr drwy ein cynlluniau ar y cyd am ganolfan busnes a thrafnidiaeth yn Wrecsam Cyffredinol a fydd yn denu cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer swyddi a thwf masnachol."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar sut y gallai ddatblygu cyllidebau dangosol ar gyfer datblygu economaidd a seilwaith yn y rhanbarthau ledled Cymru.
Wrth ddiolch i Moneypenny am gynnal y digwyddiad, ychwanegodd Ken Skates:
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn crybwyll buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol a helpu busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol.
"Mae Moneypenny, yn y ffordd y maent yn cefnogi eu gweithwyr, y ffordd y maent yn denu doniau newydd, a'r ffordd y maent yn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn enghraifft wych o fusnes yn gwneud y pethau iawn ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu cydweithrediad a'u lletygarwch."