Sicrhau bod marchnadoedd yr UE ar agor i fusnesau Cymru ar ôl Brexit fydd prif bwnc yr agenda heddiw pan fydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn siarad â chwmnïau sydd am gynyddu'u hallforion.
Yn ail Gynhadledd Allforio Cymru yn 2018, sy'n cael ei chynnal yng Nghonwy, bydd Ysgrifennydd yr Economi yn esbonio wrth fusnesau sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu busnesau i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Brexit.
Gan siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Does dim dwywaith y byddwn yn teimlo effaith Brexit am rai blynyddoedd ar ôl gadael yr UE. Er ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau bod busnesau Cymru'n cael mynediad llawn a dirwystr i'r Farchnad Sengl, rydyn ni'n gweithio'n galed i baratoi busnesau ar gyfer amrywiaeth o ganlyniadau posib ac mae cynhadledd heddiw'n un elfen o'n gwaith proactif yn hynny o beth.
"Waeth p'un a yw'r cwmni wedi bod yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau i bob rhan o'r byd ers blynyddoedd neu a yw'n gyw allforiwr, neu'n canolbwyntio ar farchnadoedd Ewrop neu'n anelu at allforio ymhellach, bydd cyngor a help ar gael iddo yn y Gynhadledd Allforio hon sydd wedi'i threfnu'n unswydd i ateb gofyn pob cwmni.
"Wrth gwrs, bydd gan ein cwmnïau allforio gwestiynau am y cysylltiadau masnachu ar ôl Brexit ac rydyn ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i gael y fargen orau bosib, ond rydyn ni'n gweithio hefyd i gryfhau busnesau at y dyfodol, felly beth bynnag fydd canlyniadau’r trafodaethau, rydyn ni am iddyn nhw allu wynebu'r heriau a'r cyfleoedd sy'n eu haros.
"Roedd yn bleser gen i lansio wythnos hon ein Contract Economaidd, i'n helpu i feithrin perthynas newydd a deinamig â busnesau. Mae'r Contract yn cynnwys pum Maes Gweithredu i helpu busnesau i baratoi at y dyfodol ac mae un o'r rheini'n ymwneud yn benodol â chynyddu lefelau masnachu ac allforio.
"Rydyn ni'n gwybod bod cynyddu allforion yn gallu gweddnewid yr argoelion i fusnesau a'u llwyddiant yn y tymor hir. Rydyn ni am weithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w helpu i ddatblygu'r elfen hon o'u busnes gan barhau i hyrwyddo Cymru fel gwlad sy'n masnachu'n fyd-eang ac sydd â'i golygon wedi troi tua'r byd. Mae hi ar agor ar gyfer busnes."
Bydd cwmnïau yn y gynhadledd yn cael clywed gan rai o fusnesau'r Gogledd gan gynnwys Ruth Lee, Silverlining Furniture ac Air Covers a welodd dwf mawr ar ôl canolbwyntio ar allforio. Bydd yna gyflwyniad hefyd gan Bwerdy Gogledd Lloegr.