Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn dadlau'n gryf y byddai safle yng Nghymru yn ddewis perffaith ar gyfer un o'r Canolfannau Logistig ar gyfer prosiect ehangu Heathrow.
Wrth siarad â chynrychiolwyr Maes Awyr Heathrow yn ystod eu hymweliad â Tata Steel Shotton, un o'r safleoedd ar y rhestr fer, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi fod gan y safleoedd yng Nghymru lawer iawn i'w gynnig. Dywedodd pe bai Heathrow yn dewis safle yng Nghymru fel Canolfan Logistig, deuai hynny â manteision mawr a newid byd i fusnesau a chymunedau yng Nghymru.
Fel rhan o'i raglen ehangu, mae Heathrow wedi ymrwymo i greu pedair 'hyb' logistig er mwyn estyn y gadwyn gyflenwi a sicrhau bod y rhaglen adeiladu yn gydnerth, yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol. Bydd hynny'n sicrhau bod buddiannau economaidd ehangu Heathrow yn cael eu rhannu'n deg ledled y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Nod digwyddiad heddiw yw hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig i helpu Heathrow i roi ei gynlluniau ehangu uchelgeisiol ar waith.
"Byddai Cymru'n lleoliad delfrydol ar gyfer un o hybiau logistig Heathrow. Mae'n hanes hir a llwyddiannus o adeiladu a gweithgynhyrchu, ein cadwyn gyflenwi brofiadol a hwylus a'n gweithlu medrus yn golygu y byddem yn ddewis perffaith.
"Ac wrth gwrs, byddai'r manteision i'n busnesau a'n cymunedau'n anferth, gan ddod â miloedd o swyddi a miliynau o bunnau i'n heconomi.Mae'r prosiect yn cynnig cyfleoedd aruthrol ac rwy wedi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth yn ei gallu i ddod ag un o'r hybiau hyn i Gymru."
Dywedodd yr Arglwydd Deighton, Cadeirydd Maes Awyr Heathrow:
"Mae prosiect ehangu Heathrow yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i weddnewid diwydiant adeiladu'r DU trwy adeiladu ar gyfer y dyfodol a chreu gwaddol o sgiliau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Daw hyn oll ar adeg dyngedfennol yn hanes ein gwlad, wrth iddi baratoi i adael yr UE, pan fydd angen inni adeiladu ar gyfer ein dyfodol o ran teithio a masnachu.
"Bydd rhedfa newydd yn Heathrow yn cynnal hyd at 8,400 o swyddi newydd medrus ac yn sail ar gyfer hyd at werth £8bn o dwf, mewn adeiladu, twristiaeth ac allforion yng Nghymru. Mae ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu Canolfan Logistig yng Nghymru yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i'r wlad fel rhan o'n Datganiad o Fwriad gyda Llywodraeth Cymru ac rydyn yn disgwyl ymlaen at weld drosom ein hunain beth sydd gan y wlad i'w gynnig."
Mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo chwe safle, yn Shotton, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glynebwy a Phen-y-bont ar Ogwr, ar gyfer un o bedair canolfan logistig Heathrow yn y DU.
Ar ôl eu dewis, bydd y pedair canolfan logistig yn cael eu defnyddio i adeiladu'r seilwaith ar gyfer trydedd redfa Heathrow a disgwylir i bob un greu nifer fawr o swyddi a rhoi hwb economaidd anferth i’w hardal.