Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu i wneud Blaenau Gwent a’r Cymoedd yn ganolfan byd enwog o ran meithrin a chynnal technolegau
Mewn cyfarfod gydag arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Nigel Daniels, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25 miliwn yn ei rhaglen y Cymoedd Technoleg rhwng 2018 a 2021, fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i fuddsoddi £100 miliwn dros y deng mlynedd nesaf. Daw hyn ar ben buddsoddiad Llywodraeth Cymru hyd yma yn rhaglen y Cymoedd Technoleg, sy’n golygu y bydd Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £30 miliwn o gymorth i’r rhaglen erbyn diwedd 2021.
Bydd y buddsoddiad hwn yn sbarduno creu swyddi ac yn denu buddsoddi pellach yn yr ardal gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat, tra'n cyflymu datblygiad technolegau uwch o werth uchel sy'n cynorthwyo diwydiant o’r radd flaenaf.
Dyrannwyd y swm o £25 miliwn o dan y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, ac mae'n rhan o'r swm o £100 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei fuddsoddi yn rhaglen y Cymoedd Technoleg rhwng 2017 a 2027 er mwyn helpu i greu dros 1500 o swyddi, yn bennaf ym meysydd y technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch.
Un o'r ffactorau galluogi allweddol fydd y cymorth a roddir gan raglen y Cymoedd Technoleg i ddatblygu sgiliau uwch o fewn y gweithlu presennol ac ymhlith cenedlaethau'r dyfodol i greu swyddi gwell ar garreg y drws.
Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn bydd yn buddsoddi £100 miliwn ym mhrosiect y Cymoedd Technoleg dros gyfnod o ddeng mlynedd, er mwyn helpu i greu dros 1500 o swyddi, yn bennaf yn y technolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Wrth edrych ymlaen at Seremoni Gwobrau Busnes Blaenau Gwent heno, mae'n bleser gennyf gadarnhau ein bod yn ymrwymo i fuddsoddi £25 miliwn ym mhrosiect y Cymoedd Technoleg dros y tair blynedd nesaf fel rhan o'n hymrwymiad i adfywio economaidd ym Mlaenau Gwent a'r ardaloedd cyfagos. Hyderaf y bydd hyn yn cyflymu twf y rhaglen bwysig hon, yn datblygu lefelau sgiliau pobl leol, ac yn denu buddsoddi pellach gan y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
“Daw hyn ar ben y buddsoddiad sylweddol rydym eisoes wedi ei wneud yn yr ardal ym maes datblygu eiddo ac i ariannu ymyriadau penodedig megis hyfforddiant ym maes deunyddiau cyfansawdd a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol y gweithlu lleol presennol, a chenedlaethau’r dyfodol, o ran y mathau o swyddi rydym am eu denu.
“Yn unol â'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd, bydd twf, gwaith teg a datgarboneiddio yn egwyddorion canolog i waith y Cymoedd Technoleg wrth iddyn nhw geisio gwasgaru ffrwyth twf economaidd i ardaloedd nad ydynt wedi gwneud cystal dros y blynyddoedd diwethaf.
“Yn ogystal rydym wrthi'n cynnal trafodaethau gyda nifer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o brosiect y Cymoedd Technoleg a'r twf economaidd ddaw yn sgil hynny. Bellach rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd y diddordeb hwnnw yn arwain at greu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel.”
Dywedodd cadeirydd Ardal Fenter Glynebwy, Mark Langshaw:
“Rwyf wrth fy modd i glywed y cyhoeddiad ynghylch y cyllid o £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer prosiect y Cymoedd Technoleg. Daw hyn yn sgil cyhoeddi Cynllun Strategol y Cymoedd Technoleg ac mae’n arwydd o ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i adfywiad economaidd Blaenau Gwent. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn ffactor galluogi allweddol o ran denu cyflogwyr i’r ardal, a bydd yn cyfrannu at wireddu’r uchelgais o greu 1500 o swyddi cynaliadwy o ansawdd dros y deng mlynedd nesaf.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Nigel Daniels:
“Rydym yn cydnabod y cyfleoedd ddaw yn sgil natur cyfnewidiol prosesau cynhyrchu a thechnoleg byd eang, ac rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod y dull gweithredu Cymoedd Technoleg yn sicrhau twf economaidd o ganlyniad i’r datblygiadau cyffrous hyn. Rydym yn cefnogi’r cyhoeddiad ynghylch y buddsoddiad o £100 miliwn dros 10 mlynedd ym Mlaenau Gwent, ac yn benodol y buddsoddiad o £25 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan ganolbwyntio i gychwyn ar sgiliau, sef y ffactor allweddol o ran sicrhau’r manteision hir dymor ddaw yn sgil y datblygiadau technegol.”
Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn bresennol yn Seremoni Gwobrau Busnes gyntaf Blaenau Gwent, a gynhelir nos Fecher 9 Mai, i ddathlu llwyddiant cwmnïau lleol a sôn yn ehangach am ei ddyheadau ar gyfer yr ardal.
Ar yr un diwrnod bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Strategol y Cymoedd Technoleg, sy'n datblygu ar sail y Ddogfen Weledigaeth a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, gan gynnwys canolbwyntio'n benodol ar sgiliau.