Mae mynediad at farchnadoedd yr UE yn y dyfodol yn hanfodol ar gyfer swyddi yn Sir y Fflint, rhybuddiodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, heddiw.
Mae ffigurau yn dangos bod 24 y cant o’r gweithlu yn Sir y Fflint yn gweithio yn y sector cynhyrchu, yn bennaf ym maes gweithgynhyrchu, gan gynhyrchu nwyddau sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.
Yn 2017, aeth 60 y cant o allforion Cymru i’r UE, ac nid yw Llywodraeth Cymru am weld unrhyw rwystrau newydd ar ôl Brexit a allai amharu ar y fasnach hon sy’n cynnal swyddi.
Mae papur masnach Brexit Llywodraeth Cymru yn esbonio mai’r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw cadw mynediad llawn at Farchnad Sengl Ewrop a bod yn aelod o undeb tollau.
Mae dadansoddiadau’n dangos yr effaith ddifrifol y byddai Brexit caled yn ei chael ar swyddi ac economi Cymru. Pe bai’r DU yn newid i reolau Sefydliad Masnach y Byd, gallai economi Cymru leihau 8% i 10%, sef rhwng £1,500 a £2,000 y person.
Mae’r papur masnach yn amlinellu sut y byddai Brexit caled yn cael effaith anghymesur ar economi Cymru ac mae’n nodi mai’r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o dariffau yw’r rhai modurol, cemegau, dur a pheirianneg drydanol. Y sector sydd fwyaf mewn perygl o rwystrau heblaw tariffau yw’r diwydiant awyrofod. Dyma’r sectorau sydd ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru ac sy’n gyfrifol am nifer mawr o swyddi crefftus sy’n talu’n dda.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae cael mynediad at farchnadoedd yr UE yn hanfodol ar gyfer swyddi yn Sir y Fflint. Mae ffigurau yn dangos bod 24 y cant o’r gweithlu yn yr ardal yn gweithio yn y sector cynhyrchu, gan greu nwyddau a chynhyrchion sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.
“Yr UE yw’n marchnad fwyaf ac mae tua 60% o allforion Cymru yn mynd i’r UE. Mae hyn yn werth £16.4 biliwn bob blwyddyn. Rhaid i unrhyw gytundeb â’r UE ar ôl Brexit ddiogelu’r fasnach hon a dyna pam mae arnom angen mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl ac aelodaeth o undeb tollau. Mae hyn yn ymwneud â diogelu swyddi a buddsoddi. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn denu’r lefel uchaf erioed o fewnfuddsoddi diolch, i raddau helaeth, i’r ffaith ein bod yn gallu cyrraedd 500 miliwn o gwsmeriaid y UE.
“Mae’r ffeithiau moel hyn yn dangos beth sydd mewn perygl os nad yw Llywodraeth y DU yn cael y cytundeb iawn i’r DU neu os rydyn ni’n gadael yr UE heb gytundeb. Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer Brexit synhwyrol, yn seiliedig ar dystiolaeth a dadansoddiad, a fyddai'n diogelu swyddi ac economi Cymru.”