Bydd Ken Skates yn Hong Kong a Shanghai yr wythnos hon i gryfhau cysylltiadau masnach â Tsieina a hyrwyddo Cymru fel lle gwych i fyw a gwneud busnes ynddo ac i ymweld ag ef.
Bydd 25 o gwmnïau o Gymru yn teithio gyda fe gan gynnwys Aircovers yn Wrecsam, Cradoc’s Savoury Biscuits yn Aberhonddu a Teddington Engineered Solutions yn Llanelli, sy’n rhan o daith fasnach fwyaf Cymru i Tsieina ers 10 mlynedd.
Bydd Ysgrifennydd yr Economi yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Shanghai a Hong Kong i hyrwyddo Cymru fel gwlad eang ei gorwelion sy’n edrych tua’r dyfodol ac un sy’n awyddus i feithrin a chryfhau cysylltiadau â phartneriaid masnachu ledled y byd.
Bydd yn cwrdd â buddsoddwyr a allai ddod â buddsoddiad i Gymru ac yn mynd i ddigwyddiad arbennig ar Weithgynhyrchu Uwch. Bydd hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr llywodraethau Shanghai a Hong Kong a Swyddfa Prif Gonswl Prydain. Bydd hefyd yn mynd i berfformiad arbennig gan Opera Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Ken Skates:
“Dw i’n falch iawn o gael ymweld â Shanghai a Hong Kong i gryfhau ymhellach ein cysylltiadau cryf â gwlad sy’n un o economïau cryfaf y byd.
“Ochr yn ochr â’r 25 o gwmnïau sy’n rhan o’r yn y daith fasnach, byddaf yn canmol rhinweddau Cymru fel partner masnach o’r radd flaenaf, cyrchfan rhagorol i dwristiaid, partner amrywiol ei ddiwylliant ac fel lle gwych i fyw, astudio a chynnal busnes ynddo ac i ymweld ag ef.
“Mae’n Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yn nodi’n glir ein hymrwymiad i roi blaenoriaeth i allforio a masnachu, ac i helpu busnesau i gadw’u partneriaid masnachu presennol a hefyd chwilio am farchnadoedd byd-eang eraill.
“Gan fod allforion o Gymru wedi cynyddu’n sylweddol o bron £194m yn 2012 i bron £313m yn 2017, mae hon, heb os, yn farchnad wirioneddol arwyddocaol ac yn un sydd â llawer i’w gynnig i’n hallforwyr.
“Mae’n gyfnod heriol lle rydym i gyd yn ceisio manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, a mynd i’r afael â heriau a chymhlethdodau Brexit.
“Nawr mwy nag erioed, mae’n bwysig inni greu cysylltiadau â Tsieina a’n partneriaid rhyngwladol eraill er mwyn adeiladu economi sy’n gryfach ac yn decach i bawb. Mae’r ymweliad yr wythnos hon yn rhan o’n hymdrechion amrywiol i gyflawni hynny.”