Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi croesawu’r ffigurau diweddaraf sy’n dangos bod Cymru wedi allforio nwyddau gwerth £16.4 biliwn yn 2017 - cynnydd o £1.8 biliwn ers y flwyddyn flaenorol.
Yn 2017, allforion Cymru i wledydd yr UE oedd 60.3% o allforion Cymru, a oedd yn fwy na 10 pwynt canran yn uwch na ffigur y DU, 49.6%.
Yr Almaen oedd prif gyrchfan ar gyfer nwyddau o Gymru, gyda dros 19% o gyfanswm allforion Cymru yn mynd yno. Yn y cyfamser, dynodwyd 53.2% o allforion yn “Peiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth”.
Gan groesawu’r ystadegau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennodd yr Economi:
"Mae’r cynnydd hwn o £1.8 biliwn yn allforion o Gymru yn newyddion gwych. Mae’n dyst i lawer o waith caled a dycnwch ein cwmnïau allforio sy’n llwyddo yn eu hymdrechion i gynyddu eu cyfran o’r marchnadoedd tramor.
“Mewn gwirionedd, mae allforio’n gallu trawsnewid busnes a mynd ag ef i’r lefel nesaf, a dyna pam mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.
"Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth inni baratoi i adael yr UE, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed i roi’r cymorth sydd ei angen i gwmnïau yn ystod yr amser heriol hwn.
Mae’n Cynllun Gweithredu ar yr Economi’n nodi’n glir ein hymrwymiad i roi blaenoriaeth i allforio a masnachu a helpu busnesau i gadw eu partneriaid masnachu presennol a hefyd eu helpu i ehangu i farchnadoedd byd-eang eraill.
"Ymhen ychydig ddyddiau byddaf yn teithio i Tsieina gyda 25 o gwmnïau o Gymru sy’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i gynyddu eu cyfran o’r farchnad yn Tsieina.
"Gwyddom fod allforion Cymru i Tsieina wedi cynyddu’n sylweddol o bron £194 miliwn yn 2012 i bron £313 miliwn yn 2017, ond rwyf am weld y ffigurau hynny’n cynyddu ymhellach.
"Mae fy ymweliad â Hong Kong a Shanghai, yn ogystal a’r daith fasnach gysylltiedig, yn rhan o’n gwaith o gryfhau ymhellach ein cysylltiadau masnach â gwlad sy’n un o’r economïau cryfaf y byd ar hyn o bryd, a rhoi pecynnau cymorth penodol i’n cwmnïau a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu nodau allforio.”