Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cadarnhau bod cwmni cyflenwi dur o Gasnewydd, sef BRC Reinforcement Limited, yn ddiogelu 35 swydd llawn amser yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y buddsoddiad gwerth £100,000 gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo BRC, sy'n rhan o Grŵp Celsa o gwmnïau, i brynu peiriannau newydd a gwella diwyg ei ffatri fel bod modd cynyddu lefelau cynhyrchiant ar ei safle yng Nghasnewydd.
BRC yw un o brif gyflenwyr diwydiant adeiladu'r DU ac mae wedi darparu deunyddiau ar gyfer prosiectau mawr iawn gan gynnwys Crossrail, Sky Garden Llundain, Mersey Link a ffordd osgoi Aberdeen.
BRC hefyd yw cyflenwr mwyaf y DU o gynhyrchion atgyfnerthu dur a chynhyrchion cysylltiedig ar gyfer concrid ac mae'n defnyddio dur y mae 98% ohono wedi'i ailgylchu a gaiff ei gynhyrchu ar ei safle creu dur yng Nghaerdydd. Mae BRC hefyd yn arbenigo ym maes gweithgynhyrchu atgyfnerthiadau carped rebar a rhwyll ffabrig dur.
Bydd BRC yn buddsoddi dros £1 filiwn yn y prosiect hwn a bydd yn ymrwymo i brydles newydd a hirdymor gyda'i landlord ar ei safle yn Corporation Road. Bydd y cwmni hefyd yn caffael cyfarpar plygu a thorri pwrpasol er mwyn cyflawni arbedion effeithlonrwydd, gan eu helpu i sicrhau dyfodol hirdymor yng Nghasnewydd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
Mae cefnogi diwydiant dur Cymru drwy gyfnod anodd a heriol yn parhau'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.
Rwy'n falch iawn fod ein buddsoddiad gwerth £100,000 yn helpu BRC i wella ei gynhyrchiant a chreu a diogelu tua 35 o swyddi ar ei safle yng Nghasnewydd. Gwnes lansio'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ym mis Rhagfyr y llynedd, a roddodd sylw i sicrhau bod modd i gymunedau ar draws Cymru elwa ar dwf economaidd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ein buddsoddiad yn helpu i sicrhau dyfodol llwyddiannus ar gyfer BRC yng Nghasnewydd.
Dywedodd Mr John Collins, Rheolwr-Gyfarwyddwr BRC:
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atgyfnerthu sefyllfa BRC fel prif wneuthurwr deunyddiau atgyfnerthu'r DU a all gyflenwi'r holl brosiectau seilwaith mawr. Mae'r buddsoddiad hwn yn tystio i'n cydweithio agos â Llywodraeth Cymru ac roedd yn bosibl yn sgil cymorth diwyro ein gweithlu a'r Undeb Community. Rydym oll yn rhannu'r un amcan sef hyrwyddo cyrchu lleol a chyfrifol a'r economi gylchol. Golyga hyn fod gennym bopeth yn y DU ar gyfer adeiladu yn y DU.
Gan fod cynifer o gwsmeriaid yn awyddus i weld cadwyn gyflenwi sy'n cefnogi gweithgynhyrchu yn y DU ac sy'n creu dur carbon isel, wedi'i ailgylchu ac atgyfnerthol rydym mewn sefyllfa unigryw i warantu ffynhonnell ein cyflenwad. Bydd y cyfarpar yma'n ein galluogi i gyflenwi hyd yn oed mwy yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd cynrychiolydd yr Undeb Community, Steve McCool:
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adlewyrchu'r gwaith rhagorol sy'n cael ei gyflawni gan y gweithlu a'r rheolwyr i sicrhau bod safle Casnewydd yn gyfleuster arwyddocaol a strategol o fewn cadwyn gyflenwi Celsa. Mae aelodau Community ar y safle wedi cydweithio'n ddiwyd â'r rheolwyr lleol er mwyn sicrhau'r buddsoddiad hwn.