Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, a dros 25 o gwmnïau o Gymru yn ymweld â Tsieina a Hong Kong y mis nesaf.
Bydd Ken Skates yn cynnal derbyniadau Dydd Gŵyl Dewi yn Shanghai a Hong Kong i hyrwyddo Cymru ac i ddangos ei bod yn genedl eang ei gorwelion sy’n troi ei golygon tua’r dyfodol, ac sy’n awyddus i feithrin ac i gryfhau cysylltiadau â’r partneriaid masnach sydd ganddi ledled byd .
Ymhlith y cwmnïau a fydd yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Amgylchedd fydd Aircovers o Wrecsam, Craddosk’s Savoury Biscuits o Aberhonddu a Teddingoton Engineered Solutions o Lanelli. Byddant yn rhan o un o’r dirprwyaethau masnach mwyaf o Gymru i deithio i Tsiena ers 10 mlynedd.
Ac er mwyn rhoi llwyfan i fywyd diwylliannol ffyniannus Cymru, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Economi a’r cwmnïau o Gymru mewn derbyniad arbennig i fusnesau yn Hong Kong.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Dw i’n hynod falch o gael cyfle arall i ymweld â Tsieina er mwyn datblygu’r cysylltiadau cryf sydd gennym yn barod gyda gwlad sy’n gallu ymfalchïo yn y ffaith mai ganddi hi mae un o economïau cryfa’r byd ar hyn o bryd.
“Law yn llaw â dirprwyaeth fasnach ac ynddi 25 o gwmnïau, bydda i’n canu clodydd Cymru fel partner masnachu o’r radd flaenaf, fel cyrchfan gwych ar gyfer twristiaid, partner diwylliannol llawn amrywiaeth a lle gwych i fyw, astudio a chynnal busnes ynddo.
“Mae’n Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yn gwbl glir am ein hymrwymiad i roi blaenoriaeth i allforion a masnach. Mae’n nodi hefyd ein bod yn ymrwymedig i helpu busnesau i gadw’r partneriaid masnachu sydd ganddyn nhw’n barod, ac i roi help llaw iddyn nhw fynd ar drywydd marchnadoedd eraill ym mhedwar ban byd ar yr un pryd.
“Ac wrth inni geisio mynd i’r afael â’r cyfleoedd, yr heriau a’r cymhlethdodau a ddaw i’n rhan yn sgil Brexit, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod yn estyn llaw i Tsieina ac i bartneriaid rhyngwladol eraill ac yn parhau i weithio i greu economi gryfach a thecach i bawb.”