Bydd cwmni gweithgynhyrchu Zip Clip o Bowys yn un o'r busnesau a fydd yn chwarae rhan flaenllaw mewn cynhadledd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Nod y gynhadledd hon fydd cynyddu allforion o Gymru.
Bydd cwmni gweithgynhyrchu Zip Clip o Bowys yn un o'r busnesau a fydd yn chwarae rhan flaenllaw mewn cynhadledd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Nod y gynhadledd hon fydd cynyddu allforion o Gymru.
Bydd Cynhadledd Allforio Cymru 2018 a fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis nesaf yn rhoi gwybodaeth, cyngor, canllawiau a chymorth i gwmnïau allforio newydd a rhai sydd eisoes yn bod er mwyn iddynt fasnachu mwy dramor.
Fel rhan o'r gynhadledd, bydd cwmnïau allforio llwyddiannus megis Zip Clip yn rhannu eu profiadau o ddatblygu masnach dramor, ac yn siarad am y cymorth a gawsant gan Lywodraeth Cymru a wnaeth eu helpu i greu mwy o elw.
Yn achos Zip Clip, roeddent wedi ymladd y dirwasgiad drwy dargedu'r systemau crogiant safon uchel y maent yn eu cynhyrchu ar gyfer y diwydiannau trydanol, mecanyddol, gwresogi ac awyru, mewn marchnadoedd allforio tramor.
Cyn 2008, roedd busnes Zip Clip yn dibynnu ar farchnad y DU yn unig, ond arweiniodd y dirywiad economaidd at 30% o ostyngiad yn ei drosiant blynyddol.
Ymatebodd y cwmni i'r dirywiad hwn drwy ehangu ei gwsmeriaid drwy dargedu marchnadoedd tramor newydd, gan gynnwys yr Almaen, De Affrica ac Awstralia.
Roedd rhaglenni cymorth i allforio'r Llywodraeth wedi ei helpu yn hynny o beth. Roeddent yn cynnwys y Rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol a helpodd Zip Clip i nodi partneriaid busnes posibl, a'r Rhaglen Ymweliadau Datblygu Busnesau a alluogodd y cwmni i ymweld â'i farchnadoedd targed ac i fynd i sioeau masnach rhyngwladol.
Yn wir, arweiniodd taith bwysig i Qatar yn 2013, a gynorthwywyd gan y Llywodraeth, at amrywiaeth hollol newydd o gyfleoedd i Zip Clip.
Yn gyffredinol, arweiniodd yr holl waith a wnaed gan y cwmni i gynyddu allforion at 40% o gynnydd mewn masnach dramor mewn 23 o wledydd.
Dywedodd Steve Goldsworthy, rheolwr gyfarwyddwr Zip Clip:
"Fel sawl cwmni ar draws y DU, mae'r dirwasgiad wedi cael effaith negyddol ar ein busnes oherwydd bu rhaid i lawer o’n cleientiaid wneud toriadau.
"Diolch byth, roedd rhaglenni cymorth y Llywodraeth ar gael. Mae'r cymorth hwn wedi newid dynamig ein busnes, gan ein helpu i ehangu dramor. Mae'r cymorth hwn wedi bod yn hollol werthfawr”.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae cwmnïau fel Zip Clip yn dangos bod allforio yn gallu trawsnewid busnes a'i alluogi i gyrraedd y lefel nesaf. Mae cynyddu allforion Cymru yn bwysicach yn awr nag erioed wrth i'r DU baratoi i ymadael â’r UE.
"Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio gyda chwmnïau sydd am gynyddu eu hallforion a chynnig yr help sydd ei angen arnyn nhw, beth bynnag yw eu sefyllfa o ran eu datblygiad.
"Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn cynnal cynhadledd allforio fawr yng Nghaerdydd fis nesaf. Byddwn yn annog cwmnïau o bob sector ledled Cymru i alw heibio i wybod mwy am sut gall y Llywodraeth eu helpu i ddatblygu'r elfen hon o'i busnes, ac i siarad â chwmnïau fel Zip Clip sydd wedi elwa ar y cymorth hwn yn uniongyrchol".