Yn nes ymlaen yr wythnos hon, bydd drama newydd sy'n cynnwys sawl actor enwog yn cael ei dangos am y tro cyntaf. Fe'i cynhyrchwyd yn ne-ddwyrain Cymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae pedair rhan i'r gyfres hon ac mae'n cynnwys yr actor llwyddiannus, Sarah Lancashire (Happy Valley, Last Tango in Paradise), Lucian Msamati (Taboo, Luther), a Lia Williams (The Missing, The Crown).
Yn y rhaglen, mae merch groenddu ifanc o'r enw Kiri yn cael ei herwgipio. Mae ar fin cael ei mabwysiadu ond mae'n diflannu yn ystod ymweliad â'i theulu biolegol a drefnwyd gan ei gweithiwr cymdeithasol (Sarah Lancashire).
Cynhyrchwyd y ddrama gan The Forge a wnaeth y penderfyniad i ffilmio yn y De-ddwyrain ar ôl llwyddo i gael Cyllid Busnes gan y Llywodraeth i ariannu rhan o'r ddrama. Rhoddwyd yr arian hwn ar yr amod bod y cwmni cynhyrchu yn gwario cyfran o gyllideb y cynhyrchiad ar gynhyrchu’r ddrama yng Nghymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Treftadaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'r arwyddion cynnar yn dangos mai 2017 oedd un o'r blynyddoedd gorau i'r diwydiant teledu a chynhyrchu ffilmiau yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd y byddwn yn darlledu drama o safon ar ddechrau 2018.
"Yn ystod 2018, byddwn yn gweithio'n galed i adeiladu ar yr hanes llwyddiannus hwn ac yn parhau i wella'r enw da sydd gan Gymru fel lleoliad ffilmio gwych ar gyfer pob math o raglen neu ffilm."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Dyma'r ail gyfres 4 pennod y mae Jack Thorne wedi’i hysgrifennu ar gyfer Channel 4. Ffilmiwyd y gyntaf yn Swydd Efrog ac rwy'n sicr bod y pecyn cymorth cynhwysfawr a gynigwyd gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at benderfyniad y tîm cynhyrchu i ffilmio yng Nghymru.
"Rhoddwyd y cymorth hwn ar yr amod bod y cwmni cynhyrchu yn gwario cyfran o’i gyllideb cynhyrchu yma yng Nghymru, a byddai hynny wedi arwain at fudd economaidd go iawn mewn sawl cymuned.
"Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cwmnïau cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu, fel Kiri, sydd wedi cael arian gan y Llywodraeth, wedi gwario dros £100 miliwn yng Nghymru. Mae hyn wedi creu swyddi amser llawn sy'n gyfwerth â 2000 o flynyddoedd, wedi bod o fudd i gadwyni cyflenwi lleol ac wedi helpu cannoedd o fusnesau yng Nghymru.”