Bydd prosiect gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ffatri yn galluogi cwmni sy'n gwneud gyriannau amrywio cyflymder i greu 50 o swyddi ychwanegol yn y Trallwng erbyn 2020.
Mae Invertek Drives Ltd yn cyflogi 180 o bobl yn barod. Fe'i sefydlwyd gyntaf ym 1998 i wneud rheolyddion ar gyfer motorau trydan sy'n cael eu defnyddio mewn popeth o beiriannau, ffaniau a chludyddion i beirannau codi.
Mae gan y cwmni gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu ei drosiant i £50 miliwn erbyn 2022 ac i gynyddu nifer y gweithwyr i 230.
Mae'r cwmni wedi tyfu'n gyson, gan sicrhau gwerthiant byd-eang o fwy na £30 miliwn ac mae'n gwerthu ac yn gwasanaethu ei gynhyrchion mewn mwy nag 80 o wledydd ledled y byd.
Mae'r ffatri newydd yn hanfodol er mwyn iddo fedru parhau i dyfu ac mae angen adeiladau mwy o faint ar y cwmni er mwyn iddo fedru cynhyrchu mwy a dod â'i holl weithgarwch yn y Trallwng ynghyd ar un safle.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Dw i'n falch bod ein cyfraniad ni at y cynllun hwn yn ategu'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer gwella economi Cymru, gan ddiogelu swyddi sy'n bodoli eisoes a chreu swyddi newydd.
“Mae Invertek Drives yn dod â budd i'r gymuned eisoes drwy gyflogi pobl a thrwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol. Bydd yr ehangu hwn yn ei helpu i gael hyd yn oed fwy o effaith ar yr economi.
"Rydyn ni'n hynod falch o gael y cyfle i'w helpu i wireddu'r cynlluniau uchelgeisiol sydd ganddo ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Charles Haspel, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Invertek Drives:
"Mae'r datblygiad newydd pwysig hwn yn cadarnhau ymrwymiad sylweddol Invertek i ranbarth y Canolbarth wrth iddo fynd ati i geisio tyfu ymhellach yn y farchnad uwch-dechnoleg ryngwladol mewn awtomatiaeth ddiwydiannol."