Mae darpar beirianwyr wedi cael cyfle i gael blas ar weithio i un o'r cwmnïau mwyaf nodedig ym maes rasio moduron – Aston Martin.
Ers diwedd mis Mehefin, mae TRJ, a benodwyd gan Aston Martin Lagonda i helpu i drosi'r 'Superhanger' ym Mharc Busnes Awyrofod Sain Tathan, wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion lleol, gan roi cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn 'ymarfer adeiladu pont'. Nod y gwaith yw hyrwyddo manteision pynciau STEM a'r diwydiannau adeiladu a pheirianneg.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Rwy'n falch bod Aston Martin ac un o'i brif gyflenwyr yn Sain Tathan wedi cynnwys y gymuned leol yn eu gwaith a'u bod bellach yn cyfrannu at addysg ein pobl ifanc a'u helpu i ddeall y diwydiant yn well. Mae ffyniant Cymru yn dibynnu nid yn unig ar lwyddiant cwmnïau fel Aston Martin ond hefyd ar feithrin y sgiliau sydd eu hangen i hybu'r economi.
"Rydyn ni, ynghyd ag Aston Martin, yn ymrwymedig i sicrhau bod Sain Tathan yn un o gyfleusterau gweithgynhyrchu mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynhyrchu ceir y gall Cymru fod yn falch ohonynt. Bydd y buddsoddiad hwn yn seilwaith ein heconomi yn rhan allweddol o gyrraedd y nod hwn. Roedd y buddsoddiad a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Parc Busnes a'r seilwaith cysylltiedig yn un o'r ffactorau allweddol y gwnaethom ei ystyried wrth asesu safle Sain Tathan."
Dywedodd Karen Botting, Uwch-Reolwr Dysgu a Datblygu:
Mae Aston Martin yn bwriadu cynnal rhaglen lawn o ymgysylltu â sefydliadau addysg yn 2018. Dywedodd Alison Rees, Rheolwr Datblygu Busnesau a Chyswllt Cymunedol TRJ:“Bydd Aston Martin yn cynnig nifer o gyfleoedd cyffrous i ddatblygu gyrfa yn ei ffatri newydd a bydd yn agor ei raglen i brentisiaid yn Sain Tathan yn 2019. Mae ymweliadau ag ysgolion fel yr un ag Ysgol Gyfun y Bont-faen yn gyfle rhagorol i’n prentisiaid gwrdd â disgyblion, ac i esbonio’n union pa yrfaoedd fydd ar gael i’w dilyn yn Aston Martin.”
"Dyma gyfle gwych i'r ddau gwmni ddangos yr hyn y gallant ei gynnig, yn enwedig i ddisgyblion ysgolion lleol a fyddai'n ystyried prentisiaethau yn y dyfodol agos.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Gyfun y Bont Faen am y croeso cynnes a gawsom ganddynt pan gynhalion ni ddwy sesiwn ar adeiladu pont Sefydliad y Peirianwyr Sifil i ddau grŵp o ddisgyblion, gan esbonio yr hyn yw Peirianneg Sifil. Edrychwn ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol gydag Ysgol y Bont Faen ac ysgolion eraill yn yr ardal".
Ers i Aston Martin Lagondas benderfynu dewis Cymru yn brif lleoliad ar gyfer cynhyrchu ei gerbyd DBX newydd, mae TRJ wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sicrhau bod yr ardal leol yn cael budd o'r prosiect datblygu pwysig hwn.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn helpu TRJ drwy hwyluso diwrnod 'cwrdd â'r prynwr' lle y bydd busnesau a chyflenwyr lleol yn cael eu hannog i gyflwyno eu hunain i TRJ, sef prif gyflenwr Aston Martin. Bydd hyn yn caniatáu i'r gadwyn gyflenwi leol gael ei hestyn ymhellach.