Innovantage Systems yn dyblu nifer ei staff wrth iddo ehangu a thargedu marchnadoedd Ewropeaidd
Mae Innovantage wedi datblygu meddalwedd soffistigedig sy'n casglu hysbysebion swydd o dros 280 o hysbysfyrddau swyddi a 500,000 o wefannau cyflogwyr er mwyn rhoi darlun i'r bobl sy'n recriwtio ynghylch tueddiadau o safbwynt cyflogi ar draws y farchnad swyddi gyfan.
Mae cyflogwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn ceisio deall pa rai o'r cwmnïau y maent yn cystadlu yn eu herbyn sy'n recriwtio ac ym mha ardaloedd y maent yn recriwtio. Mae'r wybodaeth hefyd yn eu galluogi i bennu tueddiadau o safbwynt recriwtio, diwallu anghenion o ran recriwtio mor gyflym â phosibl a rhagweld unrhyw alw yn y dyfodol. Mae data Innovantage hefyd yn galluogi asiantaethau recriwtio eraill a chyrff cyfryngol eraill i geisio achub y blaen o safbwynt gwerthiant.
Bydd y cyllid ynghyd â'r swyddi newydd yn galluogi'r cwmni i adeiladu ar ei sylfaen bresennol er mwyn creu cynnyrch o'r radd flaenaf ym maes dadansoddeg byd eang, gan gydymffurfio â safonau Ewropeaidd a thargedu marchnadoedd Ewropeaidd newydd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal i ddechrau.
Bydd y swyddi sy'n galw am lefel sgiliau uchel, ac y bydd angen gradd ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, yn cynnwys cymysgedd o ddatblygwyr meddalwedd a swyddi rheoli ym maes gwerthu.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Rwy'n falch iawn fod cymorth gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Innovantage i ddatblygu a mireinio ei waith dadansoddeg er mwyn gallu ymuno â marchnadoedd newydd a chanolbwyntio ar gyfleoedd allforio newydd. Mae gan y cwmni hanes llwyddiannus o gyflawni ar ran marchnadoedd gwybodaeth am recriwtio yn y DU a budd y buddsoddiad hwn yn galluogi'r cwmni i anelu'n uwch.
"Mae'r ehangu yma hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwaith yn aros yng Nghymru gan y gallai cwmnïau eraill o fewn y grŵp fod wedi'i wneud."
Dywedodd Richard Turner, Prif Swyddog Gweithredol Innovantage:
"Rydym wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyllid yma wedi galluogi Innovantage i barhau i dyfu ei waith o fewn y DU gyda chynnyrch blaenllaw, ac mae hefyd wedi ein galluogi i sicrhau rhagor o adnoddau a chyflawni ein cynnyrch rhyngwladol a'n huchelgeisiau busnes."