Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates wedi nodi y gallai rhagor o gydweithio rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru wella'r cymorth sydd ar gael i unigolion ac i gwmnïau yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi mewn araith yn Wrecsam ddydd Gwener y gallai gwaith partneriaeth rhwng y ddau gorff wella'r cyngor a'r cymorth a gynigir i fusnesau ac unigolion sy'n chwilio am gyngor ynghylch gyrfaoedd a hyfforddiant.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth i fusnesau ac arweiniad i sefydliadau drwy Busnes Cymru ac mae'n cyllido cyngor ac arweiniad annibynnol ar yrfaoedd ar gyfer pobl o bob oedran drwy Gyrfa Cymru. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn gynyddol amlwg fod cyswllt clir rhwng yr heriau y mae busnesau ac unigolion yn eu hwynebu.
Wrth siarad mewn brecwast busnes yn Wrecsam dywedodd Ken Skates:
"Trwy siarad â busnesau ac unigolion dros y misoedd diwethaf mae'n gwbl amlwg fod Busnes Cymru a Gyrfa Cymru yn gwneud gwaith hollbwysig o safbwynt cefnogi cwmnïau Cymreig a'r unigolion hynny sy'n chwilio am hyfforddiant.
"Hoffwn adeiladu ar y gwaith hwnnw ac ystyried lle y gallai rhagor o gydweithio rhwng y ddau gorff atgyfnerthu'r berthynas rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru.
"Mae'n gwbl amlwg fod angen y staff cywir sy'n meddu ar y sgiliau cywir fel y gall busnesau barhau a hefyd ehangu. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r ffaith bod angen gwybodaeth gyfredol ar unigolion ynghylch pa sgiliau y bydd galw amdanynt yn y dyfodol o fewn eu heconomi leol a hefyd gyngor ynghylch sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae cysylltiad amlwg rhwng y materion hyn ac maent yn aml yn gorgyffwrdd.
"Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n cyllido'r holl gymorth a ddarparwn o safbwynt gyrfaoedd a busnesau, mae'n hollbwysig sicrhau ein bod yn ystyried posibilrwydd cydweithio cynyddol rhwng y cyrff hynny er mwyn sicrhau bod y cymorth busnes a ddarperir a'r ymgysylltu â chyflogwyr yn cyd-fynd yn well â'r economi ac â'r systemau sgiliau.
"Credaf y gallai mwy o integreiddio gyflawni dull mwy syml ac effeithiol ar gyfer busnesau ac unigolion, ac y gallai hyd yn oed wella'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Byddai hyn hefyd yn cael effaith fesuradwy a phositif ar ein heconomi a'n cymunedau."
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
"Bydd Llywodraeth Cymru'n mynd ati yn awr i bwyso a mesur opsiynau o safbwynt rhagor o gydweithio rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru a bydd yn ystyried pa fanteision a allai ddeillio o ragor o gydweithio.
"Rwy'n awyddus i sicrhau bod y broses hon yn un agored a bwriadaf gynnwys sefydliadau, eu staff a'r holl randdeiliaid sy'n gweithio gyda hwy. Hoffem annog pawb i gynnig syniadau da gan ein bod yn awyddus i glywed gan bawb."
Mae disgwyl i adolygiad cychwynnol o'r opsiynau o safbwynt bwrw ymlaen â'r gwaith yma gael ei gwblhau erbyn yr hydref.