Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, heddiw fod Cymru'n parhau i gyflawni mwy na'r disgwyl o safbwynt denu mewnfuddsoddwyr i'r wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Adran Masnach Ryngwladol y DU yn dangos bod Cymru wedi llwyddo i ddenu 85 o brosiectau newydd yn 2016/17, gan greu, cefnogi a diogelu dros 11,500 o swyddi - a hynny er gwaethaf canlyniad refferendwm Brexit. Dyma'r trydydd nifer uchaf o brosiectau sydd wedi'u cofnodi yng Nghymru ers i'r ffigurau ddechrau cael eu casglu dros 30 o flynyddoedd yn ôl.

Gan groesawu'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae Cymru'n parhau i gyflawni mwy na'r disgwyl o safbwynt denu mewnfuddsoddiad. Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos y bu'n flwyddyn arall ardderchog i Gymru o safbwynt denu mewnfuddsoddiad gan gwmnïau o dramor. Rydym wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad gan 85 o gwmnïau ac wedi creu, cefnogi a diogelu cyfanswm o 11,546 o swyddi. 

"Gwych yw nodi yn ogystal fod bron i 11% o'r holl swyddi a gafodd eu creu a'u gwarchod yn y DU y llynedd yn swyddi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Dyma gynnydd o bron i 5% o'i gymharu â'n perfformiad yn 2015/16. 

Heb unrhyw amheuaeth mae mewnfuddsoddiad yn parhau'n gwbl allweddol ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru ac mae'n hollbwysig ein bod yn cydweithio â chwmnïau tramor a'r rhai o fewn y DU er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad a swyddi i Gymru. 

"Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld cwmnïau y mae eu pencadlys mewn rhannau eraill o'r DU yn buddsoddi cymaint yng Nghymru. Gwelwyd y nifer mwyaf erioed o gwmnïau'n gwneud hyn y llynedd. Mae hyn yn tystio i'r ffaith bod enw da Cymru'n mynd o nerth i nerth fel lleoliad gwych ar gyfer busnes ac mae'n dangos bod ein dull o drafod â busnesau'n talu ar ei ganfed."

Mae cwmni Electroimpact, sy'n gwmni o'r UDA ac yn un o integreiddwyr mwyaf y byd ym maes adeiladu awyrennau, yn un o'r cwmnïau sydd wedi penderfynu buddsoddi yng Nghymru. Mae disgwyl i'r cwmni greu nifer o swyddi medrus iawn ar ei safle yng Nglannau Dyfrdwy yn dilyn buddsoddiad o £280,000 gan Lywodraeth Cymru. 

Disgwylir i gwmni arall a gwreiddiau yn UDA, sef Amplyfi, sy'n arbenigo mewn meddalwedd cynaeafu, greu 40 o swyddi newydd yng Nghaerdydd yn dilyn gwerth £400,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru.