Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu Tasglu arbennig i sicrhau bod y cymorth gorau posibl yn cael ei roi i weithwyr Tesco a allai golli eu swyddi.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Tesco gynlluniau i gau ei Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn Llanisien, a allai arwain at 1100 o weithwyr yn colli eu swyddi.
Mae Ken Skates yn awyddus i sefydlu Tasglu newydd cyn cynted â phosibl er mwyn dod â'r bobl allweddol ynghyd i gyfuno eu gwybodaeth a'u hadnoddau. Bydd hefyd yn ceisio sicrhau y bydd cynifer â phosibl o'r 1100 o bobl sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y ganolfan yn cael y cymorth gorau posibl pe bai angen iddynt ddod o hyd i swyddi eraill.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Rwyf wedi bod yn glir iawn am y siom fawr yr wyf yn ei theimlo ynghylch y posibilrwydd o gau'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yng Nghaerdydd ac ynghylch y ffordd y cafodd y newyddion eu rhannu gyda staff.
"Mae gan Gymru seilwaith cadarn yn ei le ar gyfer helpu gweithwyr a allai golli eu swyddi. Ar adegau fel hyn, pan fo sefydliad yn cynnig dileu nifer uchel o swyddi, mae dod â'r bobl allweddol ynghyd yn hynod ddefnyddiol er mwyn gallu trafod y ffyrdd gorau ac arloesol o gefnogi'r gweithwyr hynny.
Mae hwn yn ddull sydd wedi'i dreialu a'i brofi ac mae llwyddiant tasglu tebyg arall, a sefydlwyd i gefnogi gweithwyr a gollodd eu swyddi yn sgil cau safle Murco yn Sir Benfro, yn dystiolaeth o hynny. Bydd yn sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos gydag asiantaethau, gan gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru, Cyngor Caerdydd a'n rhaglen ReAct 3 flaenllaw.
"Byddai unrhyw gyflogwr yn falch o gyflogi'r gweithlu hwn. Rwy'n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu, gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid, i sicrhau y bydd y cau arfaethedig yn effeithio cyn lleied o phosibl ar ein gweithwyr ac ar yr economi ehangach."