Croesawyd ffigurau newydd gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, sy'n dangos i incwm gwario gros yr aelwydydd yng Nghymru gynyddu'n gyflymach na chyfartaledd y DU yn 2015.
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer Incwm Gwario Gros yr Aelwydydd (GDHI) yn dangos bod incwm gwario yn ôl y pen yng Nghymru wedi cynyddu 3.3 y cant rhwng 2014 a 2015.
Mae'r ystadegau'n golygu mai Cymru a welodd y trydydd cynnydd mwyaf o ran incwm gwario yn 2015, o'i chymharu â gwledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, lle yr oedd yr incwm gwario wedi cynyddu 3.9%.
Er i'r incwm gwario gynyddu'n gyflymach na chyfartaledd y DU yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ystadegau'n dangos bod gwerth yr incwm gwario yn ôl y pen yng Nghymru yn uwch na Gogledd Iwerddon ond yn llai na'r gwerth ar gyfer Lloegr a'r Alban.
Wrth ymateb i'r ffigurau diweddaraf, dywedodd Ken Skates:
“Mae ffigurau'r incwm gwario gros yn ffordd bwysig o fesur lles economaidd, gan ei fod yn dangos faint o arian sydd gan bobl i'w wario ar ôl iddyn nhw dalu eu prif filiau.
“Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn galonogol iawn. Maen nhw'n dangos bod cyfartaledd yr incwm gwario yng Nghymru yn cynyddu'n gyflymach na chyfartaledd y DU, a bod ein gwaith i wella ffyniant a chefnogi teuluoedd ar hyd a lled Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“Mae'r ffigurau hefyd yn unol ag ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a gafodd eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf, sy'n dangos bod cyfradd cyflogaeth Cymru bellach wedi cyrraedd lefel hanesyddol uchel, sef 73.7 y cant.
“Byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau ledled Cymru, a sichrau bod gennym ni'r amodau economaidd iawn i wella lefelau cyflogaeth, cefnogi swyddi a hyfforddiant cynaliadwy, a gwasgaru cyfoeth i bob rhan o Gymru.”