Mae Cyllid Cymru wedi creu rhestr fer o leoedd yn y Gogledd all fod yn gartref i'r 50 a rhagor o bobl ddaw i weithio ym mhrif swyddfa Banc Datblygu newydd Cymru.
Datgelodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod safleoedd yn Wrecsam a'r cyffiniau wrthi'n cael eu hystyried fel lleoliad ar gyfer prif swyddfa'r banc newydd.
Daw'r newyddion wrth i Cyllid Cymru, fydd yn esblygu i fod yn Fanc Datblygu Cymru, gadarnhau mai llynedd oedd ei blwyddyn brysuraf erioed yn rhanbarth y Gogledd.
Dywedodd Ken Skates:
"Mae fy mhenderfyniad i leoli prif swyddfa ein Banc Datblygu newydd yn y Gogledd yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant a swyddi i bob rhanbarth yng Nghymru. Trwy leoli'r banc yn y Gogledd, bydd yn y lle delfrydol i wneud y gorau o'r cyfleoedd anferth sy'n gysylltiedig â thwf y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol bob ochr i'r ffin.
"Mae Cyllid Cymru eisoes yn gwneud gwaith mawr yn y Gogledd ac mae newydd gadarnhau mai'r llynedd oedd eu blwyddyn brysuraf erioed yn y rhanbarth.
"Rydym wrthi'n ystyried dau safle posib yn Wrecsam a'r cyffiniau ar gyfer prif swyddfa'r Banc Datblygu a bydd hynny, yn ein barn ni, yn gyfle inni adeiladu ar y llwyddiant hwn."
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Cyllid Cymru:
"Mae'r awydd cryf i fuddsoddi rydym wedi'i weld yn y flwyddyn ddiwethaf yn dyst i'r uchelgais yn economi'r Gogledd. Ond nid dyna ddiwedd y stori yn ein barn ni. Rydym yn teimlo bod potensial anferth i'r rhanbarth dyfu ymhellach. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethon ni gryfhau'r tîm buddsoddi sy'n gweithio yn y Gogledd ac rydym nawr yn ystyried cyflogi rhagor gan arwain yn y pen draw at ddyblu'n presenoldeb."
"Buddsoddodd Cyllid Cymru £26.6m y llynedd mewn 43 o fusnesau ac er bod hynny'n ganlyniad ardderchog, rhaid peidio â llaesu dwylo. Wrth inni symud at sefydlu Banc Datblygu Cymru, mae'n hanfodol bod gan y corff newydd bresenoldeb cryf ym mhob rhanbarth wrth inni ymroi i helpu mwy o fusnesau micro i ganolig."
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Cyllid Cymru wedi buddsoddi £7.7m yn y Gogledd, gan sbarduno'r preifat sector i fuddsoddi £19m.
Amcan Banc Datblygu Cymru fydd buddsoddi £1 biliwn i helpu busnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf a'i gwneud hi'n haws i fusnesau micro i ganolig yng Nghymru gael gafael ar gyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli.
Bydd yn creu ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi bob blwyddyn tan 2022 a bydd disgwyl iddo sicrhau bod buddsoddiad uniongyrchol yn codi i £80 miliwn y flwyddyn erbyn hynny.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd y bydd uwch swyddogion yn gweithio yn y brif swyddfa, gan gynnwys Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol presennol Cyllid Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y caiff unrhyw wasanaethau newydd a gynigir gan y Banc Datblygu eu lleoli yn y Gogledd.
Mae'r Banc Datblygu yn barod ar gyfer ei lansio yn ddiweddarach eleni, cyn belled â'i fod yn cael ei gymeradwyo gan y rheoleiddwyr.