Mae Oyster Bay Systems yn ehangu ac yn creu 19 o swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid o £120,000 gan Gronfa Twf a Ffyniant Llywodraeth Cymru yn helpu i gyflymu twf wrth i’r busnes o Aberatwe recriwtio tîm o arbenigwyr meddalwedd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o feddalwedd i’r diwydiant cyllid.
Bydd y tîm yn datblygu cynnyrch newydd ar gyfer cleientiaid Oyster Bay ym Mhrydain a thramor ac yn gwella eu cynnyrch drwy gynnwys y technolegau diweddaraf.
Vienna – a gafodd ei lansio yn 1998 – oedd y cynnrych cyntaf o’i fath a bu’n llwyddiant ysgubol. Mae’n cynnig nifer o gynnyrch, portffolios, brandiau, arian a ieithoedd a gellir ei deilwra’n arbennig ar gyfer gofynion pob benthycwr.
Wedi’i ddefnyddio gydag amrywiol gynnyrch ariannol i fenthyg i ddefnyddwyr ac yn fasnachol mewn mwy na chwech o wledydd – gan amrywio o fenthyca i BBaChau i is-gwmnïau benthyca ariannol byd-eang, banciau’r stryd fawr a banciau bychain – gall y system reoli portffolios sy’n amrywio o gannoedd i gannoedd o filoedd o gytundebau mewn un gweithrediad.
Meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Mae Oyster Bay Systems yn llwyddiant mawr i Gymru ac rwy’n falch iawn bod y cymorth gan y Gronfa Twf a Ffyniant yn helpu i gyflymu twf a chreu nifer o swyddi.
“Bu arloesi yn allweddol i lwyddiant parhaus y cwmni ac mae’r ehangu a’r buddsoddiad mawr hwn wedi ei gynllunio i hybu gwerthiant a chynyddu ei gleientiaid, gan sicrhau ei fod yn cadw ei safle o fewn y farchnad mewn sector sy’n datblygu’n gyflym.”
Mae’r busnes teuluol, a sefydlwyd yn 1983 gan Michael a Louise Breach, sydd â chanolfan yn Caernarvon House, Charter Court, Parc Menter Abertawe, yn cyflogi 28 o bobl a dyma ble fydd y tîm datblygu newydd.
Meddai’r Rheolwr-gyfarwyddwr Michael Breach:
”Mae hwn yn amser cyffrous inni wrth i dechnolegau sy’n tarfu ddechrau gael mwy a mwy o effaith ar y sectorau cyllid a lesio. Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth hwn y mae galw mawr amdano sy’n rhoi’r hyder inni ddatblygu’r busnes drwy chwilio am y staff gorau un yng Nghymru.
“Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar wella ein meddalwedd, rheoli ansawdd, ein systemau a’n timau cefnogi’r defnyddiwr er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y galw mwy nag erioed am ein sgiliau a’n gwasanaethau gyda’r angen i ddiweddaru ein cynnyrch craidd yn barhaus i fod ar y blaen yn dechnolegol.”
Mae Oyster Bay Systems yn bwriadu gweithio’n agos â Phrifysgolion yng Nghymru wrth recriwtio gyda’r nod o ddapraru swyddi i raddedigion lleol.