Wrth ddisgwyl yn eiddgar at ŵyl FOCUS Wales 2017, sy’n cael ei chynnal rhwng 11 a 13 Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi datblygiad y digwyddiad hyd at 2019.
Mae FOCUS Wales yn sefydliad dielw a sefydlwyd i arddangos Diwydiant Cerddoriaeth Cymru ar ei orau. Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar dalent cerddorol sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, a’r hyn y maent yn eu cynnig i’r byd.
FOCUS Wales 2017 yw’r seithfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal a bydd yn denu dros 7,000 o bobl i’r dref.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Ers yr ŵyl gyntaf yn 2011, mae FOCUS Wales wedi mynd o nerth i nerth, ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o hynny – byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i’r digwyddiad symud ymlaen i’r cam nesaf.
“Mae’r digwyddiad yn un gwerth chweil i roi llwyfan i dalent sy’n dod i’r amlwg. Mae’n dod â Wrecsam yn fyw bob blwyddyn gyda’r holl ddigwyddiadau’n digwydd mewn lleoliadau ledled y dref, sy’n golygu mai busnesau lleol fydd yn elwa fwyaf yn economaidd.”
Wedi iddo ddychwelyd o SXSW yn ddiweddar, dywedodd un o gyd-sylfaenwyr yr ŵyl, Neal Thompson:
“Mae gan Gymru hunaniaeth a diwylliant unigryw, a thros y saith mlynedd a aeth heibio, rydym wedi gweithio i ddatblygu digwyddiad sy’n cyflwyno Cymru i weddill y byd trwy roi llwyfan i dalent Cymreig a Chymraeg. Roeddem ni, fel FOCUS Wales, yn falch o gael mynd i SXSW yn yr Unol Daleithiau er mwyn i enw Cymru a’n diwydiant cerddoriaeth ennill eu plwyf ar lwyfan byd eang. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu FOCUS Wales fel gŵyl hyd yn hyn a thros y tair blynedd nesaf, ac yn enwedig felly, ar adeg mor dyngedfennol yn hanes yr ŵyl. Bydd yn sicrhau bod FOCUS Wales yn gwireddu ei lawn botensial fel llwyfan ryngwladol i dalent o Gymru, ac i’r wlad ei hun wrth gwrs.”
Gyda thros 200 o fandiau yn perfformio mewn lleoliadau ledled y dref ym mis Mai, dyma fydd rhai o’r uchafbwyntiau, yr Astroid Boys, Kizzy Crawford, Bryde, Georgia Ruth, Betsy, Adwaith, Exit International a llwyth o dalentau eraill o Gymru, heb anghofio’r bandiau o’r DU, rhai fel British Sea Power, Cabbage, John Bramwell, Lucy Spraggan, ac o Ganada, Gwlad Pwyl, Ffrainc, De Corea Norwy a thu hwnt.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar http://www.focuswales.com/hafan/ (dolen allanol).