Bydd cynlluniau ar gyfer Canolfan i’r Diwydiannau Creadigol yng Ngorllewin Cymru yn derbyn £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn ystyried achos busnes gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i neilltuo £3 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi Yr Egin - prosiect fydd yn sefydlu canolfan arloesol ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghaerfyrddin.
Wrth drafod ei benderfyniad, dywedodd Ken Skates:
“Wedi ystyried manteision economaidd, diwylliannol ac addysgol y prosiect hwn, rwy’n oil o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn 2017/18 i gefnogi Yr Egin.
“Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweledigaeth y Brifysgol o glwstwr o fusnesau creadigol yng Nghaerfyrddin.
“Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddod â bywyd newydd i’r economi leol, dod â swyddi ychwanegol o safon uchel i Gaerfyrddin a hyrwyddo enw da Cymru fel gwlad sy’n hybu doniau, dychymyg a chynhyrchiant.
“Mae hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach o hyrwyddo y Gymraeg fel iaith fyw a ffyniannus, a bydd yn helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y byd academaidd a busnesau creadigol.
“Bydd ein cefnogaeth i Yr Egin yn helpu Caerfyrddin i elwa ac adeiladu ar benderfyniad S4C i symud ei bencadlys yno, gan oil le a chyfleoedd i fusnesau eraill, y Brifysgol, myfyrwyr ac entrepreneuriaid i rwydweithio.”
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £3 miliwn yn helpu i godi adeilad newydd i roi llety i gwmnïau, unedau hybu i ddatblygu busnesau newydd yn y sectorau creadigol a digidol yn ogystal â lle ar gyfer digwyddiadau, neuadd gyngerdd agored, ac ystafelloedd cynhyrchu a golygu i’w defnyddio gan gwmnïau yn ogystal â’r Brifysgol.