Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i helpu Qioptiq o Lanelwy i dyfu ac ehangu trwy fuddsoddi £2.5m yn uned newydd bwrpasol y cwmni.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae ennill y contract arwyddocaol hwn yn fater o bwys mawr i Qioptiq a’r Gogledd. Qioptiq yw un o gwmnïau mwyaf deinamig ac arloesol Cymru ac mae’n un o’n prif gwmnïau angori mewn sector rydym yn rhoi blaenoriaeth iddi."
“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu cais llwyddiannus y cwmni, o’r cam cynta oll i ddatblygu’r uned bwrpasol sydd mor hanfodol i lwyddiant y contract."
“Mae’r contract newydd y diogelu dyfodol y cwmni yn Llanelwy lle mae’n cael effaith fawr ar yr economi leol trwy wariant y gweithlu a thrwy’r cadwyni cyflenwi lleol. Dyma gwmni gweithgynhyrchu arall sy’n uchel iawn ei werth y mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu’i ddyfodol.”
Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq:
“Rydym yn falch iawn bod yr MoD wedi rhoi’r contract hwn inni i ddarparu offer sy’n hanfodol i ddiogelwch ein milwyr ar y ffrynt. Prif ffactorau ein llwyddiant oedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru a gwaith caled, doniau ac ymrwymiad ein gweithwyr. Rydym yn disgwyl ymlaen yn awr at barhau â’r berthynas lwyddiannus hon â’r MoD ac i gefnogi’n milwyr â’r contract pwysig hwn."
O dan y contract 10 mlynedd newydd, bydd Qioptiq yn cyflenwi ac yn cynnal ystod eang o offer gwyliadwriaeth a thargedu ar gyfer yr MoD. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch optegol a ffotonig all cael eu defnyddio i wasanaethu amrywiaeth eang o farchnadoedd a chymwysiadau mewn meysydd fel amddiffyn, awyrofod, gwyddorau meddygol a bywyd a gweithgynhyrchu diwydiannol.
Mae Qioptiq yn gwmni’n adnabyddus fel cyflenwr haen gyntaf i lawer o gwmnïau mwyaf y sector awyrofod gan ddarparu ystod o gynnyrch sy’n cynnwys rhai o’r technolegau optegol mwyaf blaengar a soffistigedig, gan gynnwys Sbectolau Gweld yn y Nos, modwlau Arddangos Optegol ar y Pen a Chydrannau ar gyfer y Gofod.
Mae’n rhan o’r Excelitas Group o America sydd â safleoedd ledled y byd yn Ewrop, Asia ac UDA gan gyflogi 5,000 o bobl. Mae dros 500 o bobl yn gweithio yn y Gogledd iddo, yn Llanelwy a Bodelwyddan.