Bydd 12 o gwmnïau technoleg yn cyflwyno eu syniadau busnes gerbron Dug Caerefrog a gwahoddedigion yng Nghaerdydd yr wythnos hon yn y digwyddiad Pitch@Palace cyntaf yng Nghymru.
Mae Pitch@Palace yn cynnig cyfle i entrepreneuriaid ddangos eu syniadau ar gyfer busnesau technoleg i gynulleidfa ryngwladol a dylanwadol a all ei ddatblygu i'r lefel nesaf.
Sefydlwyd Pitch@Palace gan Ddug Caerefrog yn 2014 i gefnogi entrepreneuriaid i chwyddo a datblygu eu syniadau busnes drwy eu cysylltu â chefnogwyr posib gan gynnwys Prif Swyddogion Gweithredol, buddsoddwyr, anogwyr a phartneriaid busnes allweddol.
Mae Pitch@Palace On Tour yn dod i Tramshed Caerdydd ddydd Gwener 24 Chwefror yn sgil gwahoddiad gan Cardiff Start, canolfan gymorth gymunedol ar gyfer busnesau technoleg newydd a gweithwyr proffesiynol ym myd busnes yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Llywodraeth Cymru yw prif noddwr y Pitch@Palace cyntaf yng Nghymru sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Innovation Point.
Bydd entrepreneuriaid dethol yn cyflwyno eu syniadau busnes gerbron Ei Uchelder Dug Caerefrog a gwahoddedigion ac yn cystadlu i symud ymlaen i'r cam nesaf sef Bŵtcamp Pitch@Palace. Bydd y rhai mwyaf llwyddiannus yna'n gwneud cyflwyniad ym Mhalas St James o flaen cynulleidfa o bobl o'r byd entrepreneuriaeth, technoleg, cyfryngau a buddsoddi.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae gan fusnesau technoleg sydd â syniadau gwych y potensial i gael effaith gadarnhaol go iawn ar ein bywydau a'n heconomi. Maent yn gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol iawn a gall busnesau newydd elwa'n sylweddol o gefnogaeth ac arbenigedd ar lefel uchel er mwyn symud ymlaen i'r lefel nesaf.
"Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gymorth busnes i'r mentrau hyn ac mae ein nawdd i Pitch@Palace yn creu cyfleoedd a phrofiadau newydd i gwmnïau technoleg Cymru. Hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl gyfranogwyr."
Roedd Robert Lo Bue, sy'n cynnal Pitch@Palace a chyd-sefydlydd Cardiff Start yn cefnogi barn Ysgrifennydd yr Economi. Dywedodd:
"Mae'r maes dechrau busnes technoleg newydd ym mhrifddinas Cymru a'r cyffiniau wedi ehangu'n fawr yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gan ein cymuned ni yn unig dros 2100 o aelodau yn rhannu cyfleoedd a phrofiadau bob dydd.
"Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael Llywodraeth gefnogol ac amgylchedd cydweithredol lle mae mentrau unigol yn cyd-weithio i greu ecosystem ddelfrydol i ddarpar-entrepreneuriaid.
"Mae denu Pitch@Palace i Gymru yn gyfle gwych ac yn gydnabyddiaeth o'r twf cyflym a'r llwyddiant yn y sector yng Nghymru."
Mae dau brif ddigwyddiad Pitch@Palace yn cael eu cynnal yn y DU bob blwyddyn, ac mae gan bob un thema wahanol. Maent yn canolbwyntio ar feysydd amrywiol o ddiwydiant Technoleg y DU. Y thema bresennol yw Technoleg Ddynol a'r effaith bosib y mae technoleg yn ei chael ar ein bywydau bob dydd. Mae ffocws ar dri maes:
- Technoleg i gefnogi ein hanghenion bob dydd - Iechyd, Addysg, Amgylchedd
- Technoleg sy'n gwneud ein bywydau'n fwy effeithlon - Cysylltu tai drwy'r Rhyngrwyd o Bethau, Gwella Cyfathrebu, Technoleg Wisgadwy a Roboteg
- Technoleg sy'n ymestyn ein profiad o'r byd - trwy Rhith-wirionedd a Deallusrwydd Artiffisial.
Mae Pitch@Palace wedi helpu dros
- 247 o fusnesau i dyfu a chreu 643 o swyddi hyd yn hyn:
- Mae gan 66% o fusnesau newydd fwy o gyfleoedd cyflogaeth;
- Llwyddodd 65% o’r busnesau newydd sy'n cystadlu godi arian wedi hynny;
- Mae gwerth dros £247miliwn o weithgarwch economaidd wedi cael ei gofnodi.
Mae panel beirniaid Pitch@Palace Caerdydd yn cynnwys: David Buttress, Prif Swyddog Gweithredol Just Eat, Yasmin Crawford, perchennog Tramorgan a James Henderson, Rheolwr y Gronfa Inspire Wales.
Y cwmnïau a ddewiswyd i gyflwyno yw:
- Kraydel
- Salubrious Ltd
- Helpfulpeeps
- BrainWaveBank Limited
- Learnium
- Harness
- Paperclip
- Alkosens
- Medivation Limited
- Vision Game Labs Ltd
- Volunteer Space
- Recall Alert CIC.