Bydd Chetwood Financial Limited - busnes gwasanaethau ariannol newydd - yn cael ei sefydlu yn Wrecsam ac yn creu 90 o swyddi o ansawdd gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Bydd y busnes newydd, a arweinir gan dîm rheoli sydd wedi gweithredu ar lefel uwch-weithredol mewn banciau manwerthu yn y DU a thramor, yn derbyn cyllid busnes gwerth £750,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn croesawu'r newyddion. Dywedodd:
"Mae hwn yn brosiect strategol bwysig ar gyfer y sector gwasanaethau proffesiynol ac ariannol ac yn newyddion gwych i Gymru.
"Bydd y buddsoddiad yn creu swyddi crefftus sy'n cael eu talu'n dda ac sy'n cynnig cyfleoedd sylweddol am waith yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Bydd hefyd yn sefydlu'r rhanbarth fel lleoliad allweddol ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol."
Mae Chetwood yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i wneud cynnyrch gwasanaethau ariannol gwell. Mae ganddo drwydded credyd defnyddwyr eisoes a chaniatâd FCA, ac i ddechrau, bydd yn cynnig benthyciadau arloesol drwy sianelau digidol i gwsmeriaid delfrydol a lled ddelfrydol yn y DU.
Nod y cwmni yw cyflwyno eu cais am drwydded bancio yn hanner cyntaf 2017, gan obeithio lansio gwasanaethau arbedion yn gynnar yn 2017.
Bydd Chetwood wedi'i leoli ym Mharc Technoleg Wrecsam yn un o'r swyddfeydd a gafodd Llywodraeth Cymru gan Moneypenny.
Bydd y busnes yn elwa o'r duedd gynyddol i brynu cynnyrch gwasanaethau ariannol ar-lein drwy ddefnyddio platfform technoleg pwrpasol a ddatblygwyd gan Yobota, cwmni cysylltiedig, fydd yn rhoi hyblygrwydd i fod yn arloesol.
Dywedodd Andy Mielczarek, Prif Swyddog Gweithredol Chetwood:
"Rydym yn falch iawn i sefydlu ein busnes yn Wrecsam, ac mae'n gyffrous i mi gan y byddaf yn sefydlu'r busnes yn fy nhref enedigol.
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy dros y blynyddoedd i ddod. Rydym eisoes yn recriwtio yn Wrecsam, ac rydym yn dechrau gwaith gyda Choleg Cambria a phrifysgolion Cymru i greu llwybr i ni ddenu'r talent gorau i'n busnes."
Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod 696 o swyddi newydd wedi'u creu a 787 arall wedi'u diogelu o ganlyniad uniongyrchol i gymorth y Llywodraeth.