Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1.6miliwn tuag at welliannau amgylcheddol mawr yn nau safle cynhyrchu dur allweddol Celsa Manufacturing (UK) yng Nghaerdydd.
Celsa Manufacturing (UK) yw gwneuthurwr cynnyrch atgyfnerthu dur mwyaf y DU, ac mae 100% o'i gynnyrch yn cael ei greu o ddeunydd sgrap wedi'i ailgylchu. Ar draws ei ddau brif safle ar East Moors Road a Thremorfa yng Nghaerdydd, mae'n cyflogi 600 o bobl yn uniongyrchol a 194 o gontractwyr llawn amser. Mae ei weithgareddau yng Nghymru hefyd yn cynnal oddeutu 3000 o swyddi cadwyn gyflenwi.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddiogelu dyfodol oddeutu 280 o swyddi gan gynnwys gweithwyr, gweithwyr contract a phersonél cadwyn gyflenwi.
Mae pedwar prosiect - gyda chyfanswm gwariant cyfalaf o £3.6miliwn - yn cael eu cefnogi drwy Gynllun Diogelu'r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, i leihau allyriadau CO2, lleihau defnydd o ynni a lleihau costau ynni, gwella arbedion effeithlonrwydd a gwella perfformiad.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru ac rwy'n falch ein bod yn gallu ymateb i'r pwysau digynsail sy'n wynebu'r sector allweddol hwn. Mae prosesu dur yn weithred ynni-ddwys ac mae cost uchel ynni yn ffactor mawr sy'n effeithio ar ddiwydiant dur y DU gyfan. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i leihau'r defnydd o ynni a lleihau costau.
"Ein Cynllun Diogelu'r Amgylchedd yw un o'r ychydig ffyrdd o helpu cwmnïau mawr fel Celsa, sy'n defnyddio llawer o ynni, i fod yn fwy effeithlon. Nid yn unig y mae hyn yn creu manteision amgylcheddol sylweddol, mae hefyd yn creu manteision economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol i economi Cymru.
"Mae Celsa yn un o Gwmnïau Angori Llywodraeth Cymru, yn gyflogwr mawr yn ardal Caerdydd ac yn gyfrannwr mawr at economi Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y busnes yn parhau i fod yn gynaliadwy wrth weithredu o dan amodau anodd yn y farchnad. Bydd y buddsoddiad yn helpu i leihau'r defnydd o ynni a lleihau costau i helpu i adeiladu dyfodol hyfyw ar gyfer dur yng Nghymru."
Dywedodd Luis Sanz, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr CELSA Steel UK:
"Fel defnyddiwr ynni-ddwys, mae CELSA bob tro yn chwilio am ffyrdd i leihau ei effaith amgylcheddol, i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon ac i leihau costau. Rydym yn parhau i ymchwilio i dechnolegau newydd sy'n helpu'r meysydd hyn i gyd, ac mae'n ddefnyddiol iawn bod gan Lywodraeth Cymru gynllun sy'n annog mabwysiadu a buddsoddi yn y technolegau newydd hyn. Er ein bod eisoes wedi gwneud llawer i leihau allyriadau CO2, mae'n hanfodol ein bod yn lleihau ein defnydd a'n heffaith amgylcheddol ymhellach ar adeg pan fo cost trydan i ddefnyddwyr diwydiannol yn y DU yn rhoi anfantais gystadleuol i ni.
"Mae CELSA a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n wych er mwyn sicrhau'r buddsoddiadau hyn a sicrhau sylfaen mwy cadarn i'n busnes dyfu arno yn y dyfodol. Bydd hyn yn fantais i'r cwmni, ein gweithwyr a'r gymuned leol a chenedlaethol."
Mae gan y pedwar prosiect lleihau carbon y potensial i greu 67,026 MWH o arbedion ynni a sicrhau gostyngiad o 12,074 tunnell y flwyddyn o allyriadau CO2, sydd yn llawer gwell na safonau'r UE y mae'r cwmni eisoes yn cydymffurfio â nhw.