Mae 50 o swyddi newydd yn cael eu creu ym Mrynmawr gan Code Serve Ltd sy'n ehangu ac sydd wedi symud ei fusnes o ganlyniad i fuddsoddiad allweddol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Code Serve yn darparu gwasanaethau saernïo a weldio côd cynhwysfawr ac arbenigol trwy’r wlad ac mae'n darparu gwaith dur strwythurol ar gyfer prosiectau seilwaith mawr o amgylch y DU.
Mae wedi tyfu'n rhy fawr ar gyfer ei gyfleuster presennol - hen safle AIC Steel yng Nghasnewydd - lle roedd yn cyflogi 15 o bobl. Mae wedi symud i hen adeilad Tecweld yn Ystâd Ddiwydiannol Noble Square ym Mrynmawr.
Mae'r buddsoddiad, sydd ychydig o dan £1 miliwn ac sy'n cynnwys prynu offer newydd, yn cael ei gefnogi gan £400,000 o Gronfa Ad-dalu Llywodraeth Cymru i BBaChau.
Mae’r cwmni eisoes wedi creu 20 o’r 50 swydd ac wedi cyflogi sawl person oedd yn gweithio i AIC Steel a aeth i drafferthion y llynedd.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu’r newyddion gan ddweud:
"Rwy'n falch fod y gefnogaeth gan y Gronfa hon yn caniatáu i'r cwmni gyflymu ei gynlluniau ehangu i fodloni'r galw cynyddol am ei wasanaethau.
"Nid yn unig y mae'r buddsoddiad yn hwb i'r sector dur, sy'n brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, bydd yn creu nifer sylweddol o swyddi, gan gynnwys amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa, sy'n newyddion gwych."
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Dan Dark, a sefydlodd y busnes yn 2009:
"Mae hyn yn gyfle cyffrous i'r busnes sydd wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae'n nodi pennod newydd yn ei ddatblygiad. Bydd ein safle newydd yn chwarae rôl allweddol i'n helpu i fodloni ein nodau twf tymor canolig a thymor hir.
"Ni fyddwn wedi gallu symud ymlaen heb gymorth gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at gyflogi staff newydd a chreu swyddi newydd. Rwy’n falch ein bod wedi rhoi swyddi i rai o gyn-weithwyr Dur AIC a wnaed yn ddi-waith pan aeth y cwmni i drafferthion y llynedd."
Mae lle yn y cyfleuster newydd, sy'n 37,000 tr2, ar gyfer cynlluniau ehangu'r cwmni ac mae'n cynnwys uned ddiwydiannol un llawr ar wahân gyda swyddfa dau lawr, estyniadau modern ac iard nwyddau.
Mae gan yr adeilad, a ddefnyddiwyd ar gyfer saernïo dur trwm yn y gorffennol, yr holl offer codi angenrheidiol i ddelio â phrosiectau mawr gyda lle i wneud prosesau ychwanegol yn yr un adeilad.
Mae'r buddsoddiad mewn offer newydd a safle mwy yn arwain at broses gweithgynhyrchu mwy effeithiol ac yn ehangu ei allu drwy gynnig prosesau megis siotsgwrio, profi a phaentio sy'n cael eu gwneud yn allanol ar hyn o bryd.
Mae Code Serve yn gweithredu ar lefel uchel y sbectrwm saernïo ac mae'n un o'r ychydig fusnesau i gael yr achrediad lefel uchel sef Cyflawniad dosbarth 4 ar gyfer cael marc CE ar waith saernïo a weldio.
Mae wedi darparu weldwyr côd i helpu i ddatblygu pwerdy niwclear Hinkley C, maes gwaith a ddisgwylir i dyfu'n sylweddol. Mae prosiectau mawr eraill yn cynnwys to newydd ar gwrt 1 yn Wimbledon, eisteddle newydd yn stadiwm Anfield, amrywiaeth o reilffyrdd yn Llundain a’r hyb gogleddol newydd yn Ordsall Chord, Manceinion.