Mae Siltbuster ‒ cwmni sy’n darparu dulliau cludadwy o drin dŵr ‒ yn buddsoddi £4.3 miliwn i ehangu ei weithfeydd yn Nhrefynwy, gan greu 66 o swyddi newydd.
Dyma’r fargen gyntaf i gael ei tharo gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Fusnes Cymru, sy’n werth cyfanswm o £136 miliwn. Mae’r Gronfa honno’n cael ei chefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei rheoli gan Cyllid Cymru.
Bydd Siltbuster, sy’n cyflogi 48 ar hyn o bryd, yn mwy na dyblu nifer y staff, gan greu 66 o swyddi crefftus. Mae’r cwmni’n rhagweld y bydd yn dyblu ei drosiant erbyn 2020.
Mae’r cwmni’n rhy fawr bellach i’w adeilad presennol yn Unipure House ac mae’n bwriadu adeiladu pencadlys pwrpasol 2000 o fetrau sgwâr a fydd yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy a warysau, yn ogystal ag iard storio ar safle 10 erw gerllaw. Mae ei holl gynhyrchion yn cael eu dylunio yn Nhrefynwy ac mae gan y cwmni ei labordy a’i beirianwyr cymorth ei hun ar y safle.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:
“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig a fydd yn creu swyddi o ansawdd ac yn galluogi’r cwmni i dyfu ac i ddiwallu’r galw cynyddol ledled y byd am ei gynhyrchion a’i wasanaethau.
“Mae Siltbuster yn gwmni hynod arloesol ac yn awdurdod cydnabyddedig mewn maes arbenigol iawn. Mae ganddo enw da ledled y byd am safon ragorol ei waith. Ar ôl iddo fynd ati i fuddsoddi mewn datblygu cynhyrchion newydd, mae wedi gweld twf blynyddol yn ei werthiant ac yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu yn y DU a ledled y byd. Dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a Cyllid Cymru yn rhoi help llaw iddo ehangu ac i agor pennod newydd yn natblygiad y cwmni.”
Mae ei gynllun busnes yn cynnwys parhau i ehangu i diriogaethau newydd a pharhau i ddatblygu ei fusnesau diwydiannol ac ailgylchu (SPS a Gritbuster). Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Richard Coulton, a sefydlodd y busnes:
“Mae’n anhygoel meddwl mai ychydig iawn o amser sydd wedi mynd heibio ers y dyddiau pan roedden ni’n cynhyrchu un peth yn unig at un diben penodol. Rydyn ni wedi datblygu’n rhyfeddol dros y 17 flynedd diwethaf ac mae gennym bellach dros 50 o gynhyrchion gwahanol sy’n trin unrhyw beth o ronynnau ymbelydrol i ffa pob!”
“Busnes teuluol yw Siltbuster ac mae ganddo hanes o lwyddo mewn sector sy’n prysur dyfu. Mae angen symud i’r safle newydd hwn er mwyn eu helpu i ehangu ymhellach,” esboniodd Leanna Davies, sy’n Swyddog Gweithredol Buddsoddi gyda Cyllid Cymru. “Aethon ni ati mewn partneriaeth â’r cwmni, y banc a Llywodraeth Cymru i lunio pecyn buddsoddi pwrpasol sy’n diwallu anghenion y busnes a’r cyllidwyr eraill.”
Mae Siltbuster wedi gweithio gyda’r rhan fwyaf o’r 100 o brif gontractwyr adeiladu yn y DU, ac mae wedi helpu i fynd i’r afael â’r dŵr brwnt sy’n cael ei greu gan waith adeiladu ar brosiectau’n amrywio o orsaf New Street yn Birmingham, Terfynfa 5 yn Heathrow, Crossrail, a’r Parc Olympaidd, i ffatri newydd Airbus yn y DU a’r Metro yn Copenhagen. Mae ei fflyd o dros 300 o systemau cludadwy yn cael ei llogi’n rheolaidd gan y sector adeiladu.
Drwy ei is-gwmni diwydiannol SPS, mae Siltbuster yn darparu dulliau parhaol a dros dro o drin dŵr ar gyfer marchnadoedd diwydiannol, marchnadoedd trefol a’r farchnad bwyd a diod. Ar hyn o bryd, mae ei gyfarpar yn trin amryfal fathau o wastraff, gan gynnwys gwastraff o ddistyllfeydd chwisgi, gwastraff sy’n cael ei greu wrth gynhyrchu seidr a chan y rhan fwyaf o brosesau trin bwyd a diod. Mae ganddo hefyd gyfarpar sy’n cael gwared ar arsenig.
Mae’r cwmni’n gweithio dramor hefyd drwy ddosbarthwyr, a darparodd dryloywyddion i reoli llygredd pan aed ati i godi’r Costa Concordia o wely’r môr. Mae wedi gweithio ar brosiectau ledled y byd i drin gwastraff sy’n gysylltiedig â mwyngloddio. Yn fwy diweddar, mae Siltbuster wedi dod i gytundeb gyda chwmni Aquajet, sef cwmni mwyaf blaenllaw’r byd ym maes hydroddymchel robotaidd, i ddylunio a gweithgynhyrchu’r EcoClear, sef dull pwrpasol o drin dŵr.