Mae cytundebau bellach wedi'u taro ar gyfer tri datblygiad tai newydd o safon uchel ar y safleoedd preswyl olaf sydd ar gael yn natblygiad blaenllaw SA1 Glannau Abertawe Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfnewid contractau â Hale Homes - cwmni teulu o Gastell-nedd - a DT Technical Solutions, o Lynebwy.
Maent hefyd wedi cytuno ar benawdau'r telerau gyda grŵp tai cymdeithasol sy'n llunio cynigion ar gyfer safle 1.3 erw - y safle olaf sydd ar gael yn yr ardal breswyl.
Dyma'r ail ddatblygiad y mae Hale Homes yn ei wneud yn SA1 a bydd yn golygu adeiladu 23 tŷ tref ar safle un erw sydd mewn lleoliad gwych. Bydd y tai tref ynni effeithlon yn cynnwys 3 ½ llawr a balconi sy’n rhedeg ar draws holl led y to sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd.
Bydd DT Technical Solutions yn adeiladu 18 tŷ tref mewn safle hanner erw cyfagos.
Mae'r adeiladwr tai cenedlaethol, Persimmon Homes West Wales, ar y safle ar hyn o bryd yn adeiladu datblygiad preswyl gwerth £6 miliwn, sef 37 tŷ tref a 24 fflat. Mae datblygiad diweddaraf Grŵp Tai Coastal gwerth £5.5 miliwn hefyd wedi dechrau. Bydd yn cynnwys amrywiaeth o fflatiau 1 a 2 ystafell wely fforddiadwy yn ogystal â 22 cartref tair neu bedair ystafell wely. Mae'r ddau gwmni eisoes wedi datblygu ystod o dai newydd yn SA1.
Bellach, dim ond un plot preswyl sydd ar ôl yn SA1 ac mae'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i storio tywod a garthwyd o’r môr. Disgwylir iddo fynd ar y farchnad yn 2018.
Mae SA1 yn ddatblygiad poblogaidd sy'n denu buddsoddiadau gan ddatblygwyr lleol a chenedlaethol yn ogystal â chymdeithasau tai sydd wedi adeiladu amrywiaeth eang o lety sy'n cynnig nifer o arddulliau pensaernïol gwahanol.
Hyd yn hyn mae 643 o gartrefi ymddeol, fflatiau a thai wedi'u cwblhau, gyda 133 pellach yng nghanol cael eu hadeiladu. O'r rhain, bydd 213 o unedau yn 'dai fforddiadwy'.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae SA1 yn trawsnewid 96 erw o dir doc gwag yn ardal ddeinamig a bywiog aml-ddefnydd newydd ger y ddinas. Mae wedi bod yn gatalydd i ddenu buddsoddiad sylweddol i Abertawe ac wedi helpu i godi proffil y ddinas fel lle gwych i fyw, i weithio ac i fuddsoddi ynddo.
"Rwy'n falch iawn bod nifer y tai modern fforddiadwy o safon uchel - a adeiladwyd gan y sector preifat a chymdeithasau tai - yn fwy na dwbl y ganran sydd ei hangen o dan y rhwymedigaethau cynllunio.
"Mae datblygiad preswyl SA1 wedi helpu Llywodraeth Cymru i fodloni ei thargedau tai fforddiadwy a bydd yn parhau i gyfrannu at y targed diweddaraf sef adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon."
Dywedodd Jonathan Hale:
“Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnig llawer iawn o gymorth i ni adeg adeiladu’r cam cyntaf yn SA1. Y tai tref dan sylw oedd y tai cyntaf i gael eu hadeiladu yn SA1 ac roeddent yn llwyddiant mawr”.
Yr asiantwyr sydd wedi bod yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yw Cushman Wakefield.