Bydd nifer o fusnesau a sefydliadau dylanwadol o Bwerdy Gogledd Lloegr yn Abertawe yr wythnos hon.
Mae'r ymweliad casglu ffeithiau dros ddeuddydd (31 Ionawr i 1 Chwefror) yn deillio o gyfres o gyfarfodydd rhwng y Llywodraeth a chwmnïau o Bwerdy Gogledd Lloegr sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleusterau yng Nghymru a gweithio gyda chwmnïau o'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
Mae'r ymweliad cyntaf yn rhan o raglen strategol o ddigwyddiadau sy'n cael eu datblygu gan y Llywodraeth dros y 24 mis nesaf i fagu cysylltiadau busnes agos â chwmnïau o Bwerdy Gogledd Lloegr ac annog Pwerdy Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru i gydweithio.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae gan Ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr gysylltiadau cryf â'i gilydd yn hanesyddol ac mae angen i ni adeiladu arnynt i ddatblygu cysylltiadau economaidd cryfach ac i gydweithio er lles y ddau ranbarth. Mae nifer y prosiectau seilwaith mawr iawn sydd yn yr arfaeth ar gyfer Cymru wedi agor drysau i gyfleoedd mewnfuddsoddi arwyddocaol yn y Gogledd a'r De ac rwy'n falch ein bod yn mynd ati gyda busnesau i ystyried y cyfleoedd hyn a manteisio arnynt hyd yr eithaf."
Ymhlith y prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd, mae prosiect Wylfa Newydd ar Ynys Môn, y potensial i ddatblygu Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs) yn Nhrawsfynydd o fewn Ardal Fenter Eryri a Morlyn Llanw Bae Abertawe.
Bydd yr ymweliad cyntaf yn canolbwyntio'n bennaf ar brosiect Morlyn Llanw Abertawe gwerth £1.3bn a gafodd ei gefnogi'n ddiweddar gan adolygiad Charles Hendry a gomisiynwyd gan y llywodraeth. Mae'r cwmnïau sy'n ymweld ag Abertawe wedi mynegi diddordeb mewn creu cyfleuster yng Nghymru os caiff y prosiect hwn ei gymeradwyo, ac mae gan nifer ohonynt ddiddordeb mewn cydweithio â chwmnïau sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.
Rhoddir sylw hefyd i gyfleoedd yn y sector niwclear ac i brosiectau seilwaith mawr yn ogystal â'r cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i fusnesau ac awdurdodau lleol i helpu gyda mewnfuddsoddi.
Bydd y cwmnïau'n cwrdd ac yn rhwydweithio â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Tidal Lagoon Power, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe.
Bydd y rhaglen ddwy flynedd a lunnir gan y Llywodraeth yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau lletygarwch, trafodaethau bord gron, digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar sectorau penodol a chyfarfodydd un i un. Mae dau nod - cael gwell dealltwriaeth o amcanion busnes cwmnïau allweddol a thynnu sylw at gyfleodd cydweithio a mewnfuddsoddi i Gymru ar draws amrywiaeth o sectorau.
Mae'n adeiladu ar Uwch-gynhadledd y Gogledd a gynhaliwyd y llynedd i drafod manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd economaidd rhwng y rhanbarthau.