Croesawodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y newyddion y bydd gwaith adeiladu Canolfan Confensiynau Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) gwerth £83.7 miliwn yn dechrau ym mis Mawrth.
Bydd tîm corfforaethol lleol NatWest yn rhoi benthyciad gwerth £51.5miliwn i'r cwmni cyd-fenter fydd yn adeiladu ac yn rheoli'r ganolfan confensiynau newydd fel partneriaeth 50/50 rhwng Llywodraeth Cymru a Gwesty Hamdden y Celtic Manor.
Mae'r contractau wedi cael eu llofnodi gan Lywodraeth Cymru a Gwesty Hamdden y Celtic Manor i bennu cytundeb rhanddeiliaid a chytundeb rheoli prosiectau i adeiladu a rhedeg ICC Cymru.
Dywedodd Ken Skates:
"Bydd hon yn gaffaeliad mawr i Gymru, gan ein galluogi i gystadlu ag unrhyw leoliad yn y DU a hefyd yn Ewrop er mwyn denu a chynnal digwyddiadau allweddol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi.
“Bydd y datblygiad yn hwb hir dymor go iawn i economi gyfan de Cymru. Bydd yn creu swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ystod y camau adeiladu a gweithredu, yn darparu cyfleoedd busnes newydd i amrywiaeth eang o gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ac yn esgor ar fanteision canlyniadol helaeth i dwristiaeth drwy'r rhanbarth.
"Mae cyfleuster o'r calibr, safon, a maint hwn yn hollol angenrheidiol os ydym am gystadlu'n effeithiol yn y farchnad ryngwladol gystadleuol iawn. Bydd yn gwneud Cymru'n flaenllaw o ran cyrchfannau twristiaeth busnes ac rwy'n falch iawn gweld ei fod yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru."
Dywedodd Cadeirydd Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Syr Terry Matthews:
"Mae eisoes gan Westy Hamdden y Celtic Manor enw da fel Gwesty Cynadledda Pennaf y DU, ond bydd y ganolfan newydd hon yn torri tir newydd. Yn y gorffennol, rydym wedi cael ein gorfodi i wrthod cannodd o filiynau o bunnoedd o fusnes gan nad oedd y capasiti gennym i gynnal y cynadleddau mwyaf. Ddim rhagor.
"Bydd y Ganolfan Confensiynau Ryngwladol hon yn caniatáu i ni ddenu'r digwyddiadau mwyaf enillfawr i Gymru, yn ogystal ag uwchgynadleddau proffil uchel a chynadleddau pleidiau gwleidyddol. Bydd ICC Cymru yn cystadlu â phob cyfleuster yn Ewrop ac yn gweithredu fel magned ar gyfer digwyddiadau mawr, gan greu manteision enfawr i economi Cymru."
Disgwylir i ICC Cymru agor ym mis Mehefin 2019. Bydd digon o le i 5,000 o gynrychiolwyr a bydd arwynebedd y llawr o dros 26,000 o fetrau sgwâr. Bydd yn cynnwys awditoriwm â 1,500 o seddi a neuadd arddangos ar wahân. Gydag arwynebedd o 4,000 metr sgwâr, dyma fydd neuadd ddawns fwyaf Ewrop heb unrhyw golofnau, gyda lle i 2,400 o bobl giniawa.
Mae'r cyfleusterau eraill yn cynnwys 12 ystafell gyfarfod hyblyg, ystafelloedd cyfarfod llai ar bob lefel gyda mynediad at ardaloedd rhwydweithio awyr agored, technoleg o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau clyweledol integredig a swyddfeydd cleientiaid, ystafelloedd gwyrdd a chyfleusterau cynhyrchu a wasanaethir yn llawn.
Bydd plaza 2,500 metr sgwâr yn croesawu ymwelwyr i'r ganolfan newydd ac yn darparu ardal rwydweithio ac arddangos ychwanegol. Bydd ardaloedd llwytho ar gael i gerbydau HGV ger yr awditoriwm a'r neuadd fawr, a 700 o leoedd parcio ceir o dan y cyfleuster gyda mynediad uniongyrchol at atriwm ICC Cymru.
Trefnwyd a darparwyd y cyfleusterau bancio a benthyca yn lleol gan Stuart Allison, y Cyfarwyddwr Cysylltiadau yn NatWest a David Moxham, Cyfarwyddwr Tîm Cyllid Strwythuredig y banc.