Mae diwydiannau rhyngwladol, mentrau o Gymru a chwmnïau newydd arloesol o Gymru yn amlwg mewn ymgyrch i farchnata busnesau er mwyn denu rhagor o fuddsoddi mewnol i Gymru.
Yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain ac yn eu geiriau eu hunain, maent yn dweud wrth y byd yn union beth y gall Gymru ei gynnig i fusnesau. Y neges amlwg yw bod Cymru ar agor i fusnesau a’i bod yn gyrchfan fusnes wych i ddechrau busnes, datblygu a buddsoddi.
Yn dilyn pleidlais Brexit, mae’r ymgyrch yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i werthu Cymru i’r byd.
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn ei disgrifio fel “ymgyrch ysbrydoledig sy’n cael ei chefnogi gan fusnesau ac a fydd yn berthnasol i fusnesau”.
Mae’r rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch yn cynnwys Aston Martin – un o’r cwmnïau proffil uchaf diweddaraf i fuddsoddi yng Nghymru, a chwmnïau sefydliedig megis FTSE 100 Admiral, cwmnïau byd-eang fel Airbus, GE Aviation, atyniadau cyffrous fel Zip World a chwmnïau llwyddiannus y sector gwasanaethau ariannol megis Deloitte.
Maent yn ymddangos yn yr ymgyrch ochr yn ochr â chwmnïau cynhyrchu ffilmiau, arbenigwyr bwyd a diod o Gymru, cwmnïau sy’n arwain y byd ym maes uwch-dechnoleg megis IQE, busnesau arloesi fel Riversimple a chwmnïau gwyddorau bywyd sy’n ehangu ledled y byd fel Trackcel a Zimmer Biomet.
Mae pob un ohonynt yn gwmnïau hynod lwyddiannus, sy’n trafod sut y maent wedi elwa o fod â chanolfan yng Nghymru, yr hyn y gwnaeth eu denu i Gymru, sut y maent wedi datblygu eu busnes yng Nghymru a pham y byddent yn annog eraill i ddod i Gymru.
Mae safon y gweithlu, cysylltiadau â phrifysgolion da, lefelau cynhyrchiant uchel, rhwydweithiau busnes rhagorol, cyfleoedd i gydweithio, seilwaith da a chysylltiadau trafnidiaeth ac ansawdd bywyd yn cael eu crybwyll fel pwyntiau cryf o blaid.
Mae manteision llywodraeth gref, ddatganoledig, sydd o blaid busnes, sy’n cael gwared ar fiwrocratiaeth, sy’n ymateb yn gyflym ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi twf busnesau hefyd yn cael eu crybwyll fel prif fanteision sy’n anodd i’w cael mewn unrhyw fan arall.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth mwy effeithiol na busnes yn dweud wrth fusnes arall pam eu bod wedi dod i Gymru, sut y maent wedi datblygu eu busnes yma, beth yw’r manteision, a pham iddo fod yn ddewis mor wych iddynt hwy ac y maent yn annog eraill i wneud yr un modd.
“Mae’n bendant yn gefnogaeth gref, a bydd y negeseuon hyn gan fusnesau yn denu sylw y busnesau yr ydym yn eu targedu – uwch-arweinwyr busnes, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau sydd â chyfrifoldeb mewn buddsoddi ar lefel y bwrdd, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn ogystal â’r rhai sy’n llunio barn.
“Rydym yn gweithredu mewn marchnad sy’n hynod gystadleuol gyda nifer o asiantaethau hyrwyddo buddsoddiad yn gweithredu ledled Prydain, Ewrop ac yn wir y byd, felly mae angen inni dynnu sylw at ein hunain a gwneud hynny yn glir.
Mae hyn yn rhan o’n hymgyrch barhaus i fagu hyder ym myd busnes ac yn dilyn o lwyddiant i ddenu mwy nag erioed o fuddsoddiadau mewnol i Gymru yn ddiweddar. Mae’r penderfyniad i adael Ewrop yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed i fynd allan i’r byd, i ddenu sylw a gadael i’r byd wybod yn union beth sydd gan Gymru ei gynnig i fusnesau.
“Rydym am godi statws Cymru, sicrhau bod Cymru yn cael ei hystyried fel opsiwn gredadwy ar gyfer buddsoddi mewnol a’n bod ar y rhestr o gyrchfannau sy’n cael eu hystyried.”
Mae’r ymgyrch integredig gynhwysfawr i ddenu buddsoddiad mewnol yn cynnwys gwefan newydd https://tradeandinvest.wales/ (dolen allanol - Saesneg yn unig), cylchgrawn busnes sydd i gael ei gynhyrchu a’i ddiweddaru yn flynyddol sy’n trafod Cymru, ei heconomi a’i chryfderau yn y gwahanol sectorau gyda cyfres o erthyglau gan fusnesau.
Bydd wyth o gyhoeddiadau penodol annibynnol ar gyfer y sector hefyd, cyfweliadau fideo, hysbysebion mewn cylchgronnau busnes cenedlaethol, gweithgarwch ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei dosbarthu ledled y byd.
Bydd y cam cyntaf o’r ymgyrch yn rhedeg tan y Nadolig, gyda hysbysebion mewn cyhoeddiadau amlwg gan gynnwys The Financial Times, The Times, The Economist a Newsweek.
Y gynulleidfa darged ar y dechrau fydd busnesau cenedlaethol a rhyngwladol sydd â chanolfan yn Llundain a’r ardal gyfagos a’r Canolbarth, ac sy’n bwriadu ehangu. Yna bydd yr ymgyrch yn ehangu i gyrraedd marchnad fyd-eang trwy rwydwaith o swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, gan ddosbarthu gwybodaeth ledled y byd.