Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn mynd i Japan wythnos nesaf fel rhan o ymdrechion diflino Llywodraeth Cymru i gryfhau’i chysylltiadau â’i phartneriaid rhyngwladol.
Yn gwmni i Ysgrifennydd y Cabinet fydd 19 o fusnesau o Gymru sy’n mynd ar daith fasnach i Japan. Yn eu plith y bydd y Snowdonia Cheese Company, V-Trak, Melin Tregwynt a NutraSteward Ltd, bob un ohonyn nhw’n awyddus i ddatblygu’u cysylltiadau â Japan.
Yn ystod ei amser yn Osaka, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld gyda’r cwmnïau Cymreig â Ffair Brydeinig Siop Adrannol Hankyu – ffair fydd yn hyrwyddo popeth Prydeinig i siopwyr yn un o siopau mwyaf swanc Japan.
Bydd yn cwrdd â Siambr Fasnach Osaka, Llysgennad Prydain yn Japan, Tim Hitchens, a Gweinidog Amgylchedd Japan, Yoshiihiro Seiki AS a bydd yn cynrychioli buddiannau Cymru mewn derbyniad pwysig i fusnesau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn manteisio ar y cyfle hefyd i ymweld â dau safle yn Tokyo sy’n perthyn i bartneriaid mwyaf gwerthfawr Cymru yn Japan, Sony a Hitachi, i gadarnhau ymrwymiad Cymru i barhau â’i phartneriaethau â’r ddau gwmni.
Meddai Ken Skates:
“Bydd fy ymweliad a’r daith fasnach yn cynnig cyfle perffaith i gryfhau ein partneriaeth ffyniannus â Japan ac i bwysleisio bod Cymru wir yn agored i fusnes ac yn fwy brwd nag erioed i ddatblygu a thynhau’r berthynas rhyngom.
“Mae gan Gymru wrth gwrs hanes balch o fasnachu â Japan, gan allforio gwerth tros £290 miliwn o gynnyrch i Japan y llynedd yn unig. Mae’r ffigur hwnnw wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn.
“Mae gan Japan hithau ymrwymiad hir i Gymru sy’n dyddio’n ôl i’r 1970au ac erbyn hyn, mae gan ryw 50 o gwmnïau o Japan, gan gynnwys Fukitsu, Hitachi, Panasonic, Sharp, Sony a Toyota, ffatrïoedd yng Nghymru gan gyflogi rhyngddynt dros 6,000 o bobl. Yn wir, rwy’n disgwyl ymlaen at ymweld â Sony ac â Hitachi yn Tokyo nes ymlaen wythnos yma.
“Fy nhasg wythnos yma yw cryfhau’r berthynas gref sydd eisoes yn bod rhwng Cymru a Japan. Mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig fel partner masnachu, cyrchfan i dwristiaid ac yn wir, fel ffrind. Rwyf am guro’r drwm dros Gymru ac estyn llaw i’n partneriaid rhyngwladol wrth inni weithio i adeiladu economi gryfach a thecach i bawb yng Nghymru.”
Dywedodd Angela Illingworth, Swyddog Gwerthu Snowdonia Cheese, sydd yn Japan fel rhan o’r daith fasnach:
“Mae llawer o ddiddordeb wedi’i ddangos yn Japan yn ein cynnyrch a bydd y daith fasnach hon yn ein helpu i ddatblygu’r diddordeb hwnnw a sicrhau mwy o archebion allforio. Mae ein cynnyrch yn cael eu dangos hefyd yn siop Hankyu, a bydd hynny’n ein helpu i dargedu cwsmeriaid yn Japan a phorthi’r galw am ein cynnyrch."
Meddai Russell Penman o V-Trak, cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n dylunio a chynhyrchu seddau ac offer ystumio arloesol ar gyfer yr anabl a’r llesg:
“Mae Japan yn cynnig cyfleoedd da i’n busnes ac rydyn ni’n awyddus i gynyddu’n hallforion iddi. Mae’r daith fasnach yn ffordd wych o ddysgu mwy am y farchnad a meithrin perthynas â busnesau yn Japan.”