Bydd cynrychiolwyr o Aston Martin a Jaguar Land Rover yn Autolink 2016.
Bydd Autolink yn agor yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 18 Hydref a bydd yn gyfle i gwmnïau o Gymru arddangos eu cynnyrch, eu technolegau a’u gwasanaethau i Weithgynhyrchwyr Cerbydau a chwmnïau Haen 1 o Gymru a thu hwnt.
Trefnir y ffair gan Fforwm Moduro Cymru a daw â chwmnïau gweithgynhyrchu o sawl sector ynghyd i drafod â chyflenwyr ar lefel peiriannu a phrynu.
Bydd TVR, sydd ar fin cynhyrchu yng Nghymru y model diweddaraf o’i frand eiconig o geir uchel eu perfformiad, yn bresennol ynghyd â Hugo Spowers, sylfaenydd a phennaeth Riversimple Movement sydd wedi datblygu car hydrogen 2 sedd deniadol yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a fydd yn annerch y digwyddiad:
“Mae Autolink yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i nod yw helpu cwmnïau sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau i ddeall gofynion gweithgynhyrchwyr a’u cyflenwyr Haen 1 yn well.
“Bydd rhestr glodwiw o gynhyrchwyr ceir yn ymuno â ni yn Autolink ac rwy’n falch iawn bod cwmnïau enwog fel Aston Martin a TVR sy’n buddsoddi yng Nghymru, hefyd yn cefnogi’r digwyddiad. Bydd yn creu cyfleoedd rhif y gwlith i’r cwmnïau sy’n rhan o’n cadwyn gyflenwi ac yn gyfle heb ei ail i gwrdd â phrynwyr ac i rwydweithio.”
Dywedodd hefyd fod gan Gymru glwstwr cryf o ryw 150 o gwmnïau – gan gynnwys gweithgynhyrchwyr cydrannau rhyngwladol – sy’n rhan o gadwyn gyflenwi’r diwydiant moduron – gan gyflogi rhyw 18,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £3 biliwn i economi Cymru.
Mae Autolink yn rhoi cyfle i gwmnïau o Gymru ddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Ymhlith y meysydd fydd o ddiddordeb y mae:
Cydrannau Cerbydau: presiadau metel, castinau, gwaith gofannu, mowldinau, harneisiau cebl, synwyryddion, HVAC, systemau brecio, cydrannau pweru, addurnwaith mewnol.
- Deunyddiau: graffîn, technolegau powdr a haenau ychwanegion, ffibr carbon, deunydd ysgafn arloesol, trim addurnol, technolegau haenu.
- Ceir Clyfar: Arbenigwyr mewn laser, radar, camerâu a synwyryddion, a thechnolegau integreiddio cysylltiedig.
- Meddalwedd: Diogelwch seiber, profiadau defnyddwyr, dadansoddeg, data, y 4ydd chwyldro diwydiannol, Rhyngrwyd Pethau a Deallusrwydd Artiffisial.
- Gwasanaethau Eraill: peiriannau ag iddynt bwrpas arbennig, offeru, systemau rheoli a rheolaeth awtomatig, storio, logisteg, mesur a phrofion.
Yn rhan o’r arddangosfa eleni fydd y ‘Gornel Dechnoleg’ lle bydd cynnyrch a gwasanaethau arloesol o ddiwydiant ac academia yn sbarduno trafodaeth â chynrychiolwyr.
Dylai cwmnïau sydd am fod yn bresennol gofrestru ar https://wales.business-events.org.uk/cy/bookbasket/32327/