Mae Air Covers – wedi’i enwi fel y cyflenwr a ffefrir ar gyfer hofrenyddion H145 newydd Airbus Helicopters, y fersiynau sifil a milwrol.
Cyhoeddwyd y newyddion gan bennaeth Air Covers John Pattinson yn ystod ymweliad â’i ffatri gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates a Lesley Griffiths AC.
Cafodd arbenigedd ac arloesedd Air Covers ei gydnabod y mis hwn gan Airbus Helicopters sydd wedi enwi’r cwmni fel un o’r 46 o gwmnïau yn eu cadwyn gyflenwi fyd-eang sy’n cael eu cydnabod ar gyfer Arloesi Agored.
Wrth longyfarch y cwmni, dywedodd Ken Skates ei fod yn newyddion rhagorol ac
“yn dipyn o gamp ac mae’n gydnabyddiaeth bwysig o arbenigedd aruthrol Air Covers a’r gwaith technegol hynod arbenigol sy’n cael ei wneud ganddynt.
“Cwmni bach yw Air Covers, sy’n gweithio mewn marchnad arbenigol ond diolch i’r buddsoddiad mewn sgiliau, hyfforddiant, offer ac ymchwil a datblygu, y mae wedi dod yn un o brif gwmnïau peiriannu tecstilau yn y byd. Mae ei lwyddiant yn dangos yn glir mor bwysig, er mwyn i gwmni allu tyfu, yw arloesedd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.”
Symudodd y cwmni a sefydlwyd yn 2006 gan John Pattinson i Ganolfan Fusnes y Bryn ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn 2014. Dyblodd ei drosiant wedi hynny a chynyddodd ei allforion o 10% o’i werthiant i 60%.
Dywedodd Mr Pattinson mai’r symud hwnnw oedd y penderfyniad gorau i’r cwmni ei wneud erioed.
Meddai:
“Mae Wrecsam yn lle gwych i’ch busnes dyfu – mae’r cysylltiadau â’r prif feysydd awyr yn dda, mae yma ddigonedd o weithwyr crefftus, safle diwydiannol cystadleuol ei bris ac ansawdd bywyd ardderchog.
“Rydym wedi cael help gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam sydd wedi helpu’n busnes i dyfu. Mae’r cymorth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wedi taro’r nod yn berffaith gyda chymorth ar gyfer ein hymgyrch allforio a chefnogaeth ardderchog gan y tîm deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch pa bryd bynnag roedd ei angen arnom.
“Dylai’r help gyda gweithgynhyrchu, allforio a sgiliau y mae Cymru’n ei roi i’w chwmnïau argyhoeddi pob busnes blaengar y dylai symud yma.”
Mae Air Covers yn dylunio ac yn cynhyrchu gorchuddion amddiffynnol ar gyfer hofrenyddion gan ddefnyddio ffabrigau technegol modern sy’n gallu dygymod â’r amodau mwyaf eithafol ar draws y byd, lle mae cuddliw sbectrol, amddiffyniad thermol a gwres-ymwrthedd yn hanfodol.
Mae pob hofrennydd yn cael ei sganio gan laser ac mae patrwm penodol iddo yn cael ei gynhyrchu. Caiff y gorchuddion eu gwneud wedyn â llaw gan weithwyr peiriannau hynod alluog.
Mae Air Covers wedi bod yn sganio hofrenyddion ers 2008 ac mae’n berchen ar y gronfa ddata fwyaf o ddelweddau 3D a chyfluniadau yn y byd sy’n cynnwys manylebau ar gyfer bron pob hofrennydd sy’n cael ei ddefnyddio yn y byd.
Mae’r cwmni’n cyflogi tîm galluog o naw o bobl. Mae cynlluniau ganddo i gyflogi dau arall y mis hwn. Y cwmni sydd wedi ennill pob tendr milwrol Prydeinig ar gyfer gorchuddion hofrenyddion ers 2008.
Ar ôl taith o gwmpas y safle, pan gafodd weld enghraifft o waith dylunio Air Covers ar gyfer Airbus Helicopters, gwasgodd Ysgrifennydd yr Economi y botwm ‘go’ i ddechrau’r gwaith cynhyrchu ar gontract newydd ar gyfer un o brif gwmnïau hedfan y byd.