Mae’r Real Petfood Company yn bwriadu creu swyddi newydd wrth i’r cwmni ehangu’n sylweddol gan fuddsoddi £6 miliwn.
Nod y busnes yw creu 20 o swyddi pellach o fewn dwy flynedd ac mae’n rhagweld y bydd 100 o bobl yn rhan o’r gweithlu wedi 5 mlynedd.
Mae’r busnes yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu danteithion o’r radd flaenaf ar gyfer anifeiliaid anwes o dan frandiau Wagg a Harringtons ac mae’n bwriadu adleoli i’r safle newydd o’r lleoliad yn y Fflint lle y mae’n gweithgynhyrchu ar hyn bryd. Yno, mae’n cyflogi 30 o weithwyr.
Y rhiant-gwmni, sef Inspired Pet Nutrition Ltd, sydd â’i bencadlys yng Ngogledd Swydd Efrog, yw’r cwmni annibynnol mwyaf yn y DU sy’n cynhyrchu bwyd sych ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae’n buddsoddi oddeutu £6 miliwn i brynu, ailwampio ac ailddodrefnu’r safle 8 erw 130,000 troedfedd sgwâr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:
“Gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu prynu’r safle a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto at ddibenion cyflogaeth. Mae hynny’n cefnogi twf busnes, yn creu swyddi ac yn hybu’r economi leol.
“Rydw i’n falch fod The Real Petfood Company bellach yn gallu ehangu, creu swyddi newydd a chynyddu ei gapasiti er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, am ei gynnyrch. Mae buddsoddiad sylweddol y cwmni ym Modelwyddan yn arwydd cryf o’r hyder sydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r ffaith ei fod yn bwriadu cynyddu ei weithlu yn y dyfodol agos yn newyddion da, ac mae yna botensial i ehangu ymhellach."
Dywedodd Graham Wheeler, rheolwr gyfarwyddwr The Real Petfood Co:
“Cafodd The Real Petfood Company ei sefydlu yng Ngogledd Cymru 17 o flynyddoedd yn ôl ac rydw i’n falch iawn ein bod yn gallu parhau i dyfu ac esblygu yn yr un ardal. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn yn y busnes a bydd yr hwb hwn yn golygu y bydd modd inni gynhyrchu 600% yn fwy.”
Bydd y cyfarpar newydd yn cael ei osod ym mis Awst a disgwylir iddo gael ei gomisiynu ddiwedd 2016. Wedi hynny, bydd yr holl offer a ddefnyddir ar hyn o bryd i becynnu a chynhyrchu ar y safle yn y Fflint yn cael eu trosglwyddo a’u gosod. Disgwylir y bydd pob un o’r staff presennol sy’n gweithio ar y safle yn y Fflint yn symud i’r lleoliad newydd.
Bu safle Hotpoint yn wag am wyth mlynedd cyn i Lywodraeth Cymru ei brynu yn 2014 a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio unwaith eto at ddibenion cyflogaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ei asiantaethau gosod tai a’r cwmni ei hun i sicrhau presenoldeb newydd y cwmni yn Sir Ddinbych. Bydd y datblygiad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygu economi Sir Ddinbych”.
Dywedodd Stephen Wade, cyfarwyddwr Legatt Owen, sef yr asiantwyr sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru:
“Hoffwn longyfarch y Cyngor am y modd rhagweithiol y mae wedi mynd ati i weithio gyda’r prynwr a hefyd am y modd gwnaeth ymateb i’w gais cychwynnol am wybodaeth fanwl mewn perthynas â’r adeilad a’r ardaloedd o amgylch.”