Dydyn ni erioed wedi rhoi cymaint o ffocws ar ein hymrwymiad i helpu Cymru i werthu i’r byd, meddai Ysgrifennydd y Ken Skates, ar drothwy taith fasnach Llywodraeth Cymru i India y penwythnos hwn.
Bydd cynnyrch llaeth organig moethus, ffrwyth ymchwil a datblygu i ddiogelu cnydau heb gemegau, blychau gêr cyflym a walydd gwydr technolegol flaenllaw ymhlith y cynhyrchion a’r gwasanaethau fydd yn cael eu dangos ym Mumbai fel rhan o’r daith fasnach. Bydd y daith yn para o 17-24 Medi.
Mae amrywiaeth o sectorau – gan gynnwys Bwyd a Diod, Adeiladu, Ynni a’r Amgylchedd, Gwyddorau Bywyd a Deunydd a Gweithgynhyrchu Uwch – wedi cael eu dewis yn ofalus i dargedu rhai o farchnadoedd twf pwysig India.
Fel marchnad dwf ddeinamig a chanolfan fasnach bwysig ar gyfer De Asia, bydd India’n gyfle i’r cynrychiolwyr hyrwyddo’u cynnyrch a’u gwasanaethau ar lwyfan ryngwladol a manteisio ar gyfleoedd allforio.
Meddai Ken Skates:
“Dydyn ni erioed wedi rhoi cymaint o ffocws i’n hymrwymiad i helpu i werthu Cymru i’r Byd. Mae ein rhaglen fasnach ryngwladol yn rhan bwysig o’n hymgyrch i ysgogi twf busnesau Cymru dramor. Mae’r teithiau masnach hyn yn rhan bwysig o’r pecyn o gefnogaeth rydyn ni’n ei gynnig i gwmnïau.
“Fel cwsmer i’r diweddaraf y gall ffynonellau rhyngwladol ei gynnig, mae India yn cynnig cyfleoedd i gwmnïau ym mhob sector ac mae’n tyfu’n farchnad fwyfwy pwysig i Gymru. Llynedd, gwerthwyd dros £146 miliwn o allforion o Gymru i India ac mae’r daith fasnach yn gobeithio adeiladu ar hynny.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet,
“Trwy gysylltu cynrychiolwyr â busnesau tebyg ym Mumbai, un o ddinasoedd mwyaf datblygedig ac addawol y wlad, bydd y daith fasnach yn llwyfan berffaith inni adeiladu ar seiliau’r cysylltiadau sydd eisoes wedi’u datblygu rhyngon ni ac i drafod cyfleoedd i allforio yn y dyfodol.”
Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor yn ystod yr ymweliad, bydd swyddfa Llywodraeth Cymru yn India wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd er mwyn i’r cynrychiolwyr allu siarad â chwmnïau perthnasol gyda’r nod o annog cyfleoedd busnes ac allforio.
Un o’r cwmnïau fydd yn ymuno â’r daith fydd Compact Orbital Gears o’r Canolbarth, sy’n cynhyrchu rigiau profi ar gyfer sectorau gweithgynhyrchu modurol ac awyrofod.
Esboniodd Pennaeth y Cwmni, Stephen Hunton,
“Mae India’n farchnad sy’n tyfu’n gyflym, yn enwedig yn y meysydd awyrofod a modurol, ac mae cyfleoedd da i’n cynnyrch yno. Rydyn ni eisoes wedi llwyddo i allforio ychydig trwy gwmnïau partner yn India, ond rydyn ni’n gweld y daith fasnach hon yn gyfle da i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac i siarad yn uniongyrchol â’r farchnad gyffrous hon.”
Cwmni arall sy’n cymryd rhan yw Markes International, cwmni o Lantrisant sy’n dylunio ac yn gweithgynhyrchu offer sy’n synhwyro cyfansoddion organig anweddol a lled-anweddol. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn allforio dros 80% o’u cynnyrch ac enillodd Wobr y Frenhines dros Fasnach Ryngwladol yn 2015.
Meddai’r Rheolwr Marchnata, y Dr McGregor:
“Er mwyn i’n busnes allu tyfu, mae allforio’n hanfodol ac rydyn ni’n awyddus i ddatblygu trwy chwilio am farchnadoedd newydd. India yw un o brif gynhyrchwyr olewon naws y byd ac er inni gael peth llwyddiant yn y farchnad, rydyn ni am gael mwy. Mae’r daith fasnach yn ffordd dda inni ymweld â’r farchnad, cwrdd â chwsmeriaid newydd a chyffrous a rhwydweithio hefyd ag allforwyr eraill o Gymru.”
Dyma’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn y daith fasnach:
- Manutech Europe Ltd
- Bionema
- Compact Orbital Gears
- Daioni Ltd
- FSG Tool and Die Ltd
- ParcGwyddoniaeth Menia (Menai Science Park)
- Markes International
- Dairy Partners Ltd Cymru
- Divider Folding Partitions.