Abertawe yw un o sêr annisgwyl drama fawr newydd am fywyd yn y diwydiant ffasiwn ym Mharis ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r ddrama hanesyddol afaelgar newydd, THE COLECTION, yn cael ei dangos am y tro cyntaf erioed heddiw (Dydd Gwener, 2 Medi), ar Amazon Prime yn unig. Derbyniodd nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gyfres wedi’i rhannu’n wyth pennod awr o hyd gyda chast trawiadol sy’n cynnwys Richard Coyle (Coupling, Crossbones) a Tom Riley (Da Vinci’s Demons).
Ymhlith yr enwau eraill y mae Mamie Gumer o The Good Wife, yr actores llwyfan a ffilm o fri, Frances de la Tour a chast lleol rhagorol sy’n cynnwys Bethan Mary James (Belle).
Er bod y ddrama wedi’i lleoli ym Mharis, cafodd THE COLLECTION ei ffilmio yn Abertawe yn bennaf, gyda nawdd Cronfa Fuddsoddi Llywodraeth Cymru yn y Cyfryngau. Cafodd cyfran arwyddocaol o’r gyllideb hael ar gyfer y sioe uchelgeisiol hon ei gwario yng Nghymru.
Awdur a chrëwr y saga deuluol wefreiddiol hon yw Oliver Goldstick, awdur a chynhyrchydd Pretty Little Liars ac Ugly Betty. Mae’r stori’n dilyn dau frawd a hanes eu gwrthdaro yn Nhŷ Sabine, cwmni ffasiwn sy’n cuddio cyfrinachau tywyll.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:
“Mae THE COLLECTION yn enghraifft arall o gyfres ddrama uchel ei phroffil yn cael ei ffilmio yng Nghymru. Mae’n rhwym o hybu a hyrwyddo ein henw da fel lleoliad gwych i ffilmio ynddo.
“Mae prosiectau o’r math hwn yn hwb anferth i’r diwydiant, gan gynnig gwaith a chyfleoedd i fagu sgiliau i griwiau o Gymru gan greu yr un pryd pob math o fanteision economaidd i fusnesau bach mewn nifer o sectorau.”
Dywedodd Cahal Bannon, Pennaeth Cynhyrchu’r cwmni cynhyrchu Lookout Point,
“Gwnaeth THE COLLECTION recriwtio criw a thîm adeiladu profiadol iawn o Gymru i ail-greu Paris y 1940au yn Abertawe. Roedd y canlyniadau’n rhyfeddol.”