Mae Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, yn gofyn am farn pobl ynghylch y blaenoriaethau economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod Cymru’n wlad fwy teg, mwy ffyniannus a mwy cadarn.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn galw ar bobl, busnesau a sefydliadau ar draws Cymru i fynegi eu barn fel bod modd eu hystyried fel rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru i adnewyddu ei blaenoriaethau economaidd yn sgil y bleidlais ddiweddar o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwneud yn uniongyrchol â phartneriaid allweddol a gwahanol fusnesau ynghylch y mater hwn a byddant yn gwahodd sylwadau ac awgrymiadau ganddynt ynghylch y blaenoriaethau economaidd gorau ar gyfer Cymru.
Caiff yr holl wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu ei defnyddio fel sail ar gyfer datblygu cyfeiriad strategol newydd i economi Cymru.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae economi Cymru’n gadarn ar hyn o bryd. Mae’r nifer mwyaf erioed o bobl mewn gwaith ac mae nifer y bobl ddi-waith wedi lleihau 30,000 dros y flwyddyn ddiwethaf i’w lefel isaf ers 2006. Rydym yn perfformio’n well na holl rannau eraill y DU yn sgil y lleihad mwyaf mewn lefelau diweithdra dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Dyma newyddion ardderchog sy’n sicrhau bod ein heconomi’n gadarn. Hoffwn ein gweld yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, fodd bynnag, gan greu blaenoriaethau economaidd sy’n cyflawni er lles holl bobl Cymru.
“Bydd ein blaenoriaethau economaidd newydd yn allweddol ar gyfer ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau a byddant hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod Ewrop a gweddill y byd yn gwybod bod Cymru ar agor o hyd i fusnes.
“Rwy’n awyddus i gynnwys cymaint â phosibl o bobl yn y gwaith o ddiffinio ein blaenoriaethau economaidd a dyna pam yr wyf yn galw ar bawb sydd â barn – unigolion, busnesau a sefydliadau fel ei gilydd – i gysylltu â ni a’n helpu i greu Cymru sy’n fwy teg, yn fwy ffyniannus ac yn fwy cadarn. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn.”