Gyda’n gilydd, gallwn weithio i arwain economi gryfach a mwy hyderus.
Meddai:
“Cawsom ddau gyfarfod anhygoel o gynhyrchiol a chael trafodaeth adeiladol am ganlyniad refferendwm yr UE, y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil i fusnesau yng Nghymru a sut y gall Llywodraeth Cymru, busnesau a’r byd academaidd eu hybu. Roedd yn wych gweld cymaint o egni yn y stafell a gwir awydd i dorchi llewys.
“Roedd y trafodaethau’n gyfle hefyd imi gwrdd â hanner cwmnïau Angori Cymru. Y neges glir ac amlwg rwy’n ei chlywed yw bod yna gyfleoedd anferth inni, o weithio gyda’n gilydd fel Tîm Cymru, i elwa ar rai o’r argoelion a ddaw i Brydain ar ôl gadael yr UE, hynny er yr heriau sy’n ein hwynebu.
“Byddaf yn rhoi fy sylw ar ddod â phobl, sefydliadau a phartneriaid cymdeithasol ynghyd i weithio gyda’i gilydd er lles Cymru gyfan. Gwlad fach ydyn ni, ond mae hynny’n golygu ein bod yn gallu bod yn ystwyth ein hymateb, a chyda’n gilydd, rwy’n credu y gallwn fagu economi gryfach a sicrach, economi sy’n cynnal sgiliau crefftus ac sy’n dod â budd i bob cymuned yn y wlad. Roeddwn yn falch iawn clywed am ymrwymiad ein Cwmnïau Angori i gefnogi’r nod hwn dros yr wythnosau a misoedd nesaf.”
Gan esbonio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i wneud i dawelu ofnau cwmnïau a dangos iddynt bod Cymru’n agored i fusnes, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Yn union ar ôl canlyniad refferendwm yr UE, gofynnodd y Prif Weinidog imi baratoi Cynllun Hyder i Fusnesau. Rwyf wedi gwneud hynny a rhannais ei fanylion â’r Cwmnïau Angori wythnos yma.
“Mae un rhan o’r cynllun yn golygu creu Cronfa Twf a Ffyniant. Rydyn ni’n sylweddoli bod yna ansicrwydd ac yn cydnabod bod gan Lywodraeth ei rhan i ddangos arweiniad a phenderfyniad. A dyna’n union rydyn ni’n ei wneud. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi economi Cymru trwy gynnal camau penodol fel creu cronfa dwf yn ogystal â buddsoddi’n hyderus mewn seilwaith a sgiliau hanfodol.”
“O safbwynt helpu Busnesau Bach a Chanolig a busnesau newydd, rwy’n gefnogwr brwd i roi’r math iawn o help a chreu’r amgylchiadau iawn i bobl fusnes lwyddo. Yng Nghymru, mae gennym Fusnes Cymru a nifer o hybiau creadigol ac amrywiol, ac rwy am wneud yn siŵr ein bod ni’n creu mwy ohonyn nhw. Hynny, er mwyn sicrhau bod gan entrepreneuriaid, arloeswyr a chrewyr le ar y cyd i fynd iddo a gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu syniadau busnes a helpu ei gilydd i fagu eu busnesau.”
Gan roi ei chefnogaeth i weledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet o Dîm Cymru cryf, meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Wales BT, Alwen Williams:
“Dyma gyfle mawr ei groeso i fusnesau a Llywodraeth Cymru ddod ynghyd i drafod heriau a chyfleoedd Brexit.
“Mae Fforymau’r Cwmnïau Angori yn dangos pa mor gydweithredol y gall Cymru fod ac rydyn ni eisoes wedi gweld dros yr haf mai gorau chwarae yw cyd-chwarae. Mae’n bryd nawr i fusnesau a’r Llywodraeth ddilyn eu hesiampl i wneud Cymru’n lle mwy deniadol i fuddsoddwyr.”
Dywedodd y Dr Mark Picton, Rheolwr Gweithrediadau Masnachol RWE (Pwerdy Aberddawan):
“A hithau’n gyfnod o ansicrwydd i fusnesau ar ôl Brexit, roedd yn dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau bod Cymru’n “agored i fusnes”.
“Roedd yn galonogol gweld hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddeall yr heriau i’n busnesau unigol. Rwy’n teimlo’n hyderus y gallwn drechu’r heriau hyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.”