Ken Skates yn cyfarfod â Chwmnïau Angori i’w sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad â chwmnïau mewn Fforymau ar gyfer Cwmnïau Angori – y cyntaf yng Ngogledd Cymru (Wrecsam ar 2 Awst*) a’r ail yn Ne Cymru (Caerdydd ar 4 Awst*). Bydd yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd gan y cwmnïau yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac yn trafod cyfleoedd newydd a ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru eu helpu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi cynllun hyder busnes a Chronfa Twf a Ffyniant i helpu busnesau bach a chanolig Cymru i fuddsoddi’n hyderus. Yr wythnos hon, byddaf yn cwrdd â rhai o fusnesau pwysicaf Cymru, busnesau sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru o ran buddsoddi a chreu swyddi.
“Mae llawer o’r cwmnïau hyn yn rhan o fusnesau cenedlaethol ac rwyf am roi sicrwydd i gwmnïau Cymru a chwmnïau rhyngwladol bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi busnesau. Bydd y gefnogaeth hon yn parhau wrth inni gyd-weithio’n agos â hwy i greu twf a ffyniant.
“ER bod Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd wedi creu ansicrwydd, mae Cymru yn parhau i fod yn agored i fusnes ac mae Llywodraeth Cymru yma i helpu busnesau – dyma’r neges yr wyf am i gwmnïau ei chyfleu i aelodau eu Byrddau.”
Hefyd, cyhoeddodd Mr Skates bod Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth Ewropeaidd i helpu busnesau ledled Cymru os oes ganddyn nhw unrhyw ansicrwydd, i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd.
“Mae busnesau bach a mawr Cymru yn awyddus i gael eglurhad yn dilyn penderfyniad y wlad i adael Ewrop ond hefyd, maent yn awyddus i wybod sut i liniaru risgiau drwy dargedu allforio, bod yn fwy effeithiol a buddsoddi mwy. Rwy’n gwrando’n ofalus ar unrhyw bryderon sydd gan fusnesau ac yn targedu cymorth fel y gallwn ni helpu busnesau Cymru i fod yn y sefyllfa orau bosibl i ymdrin ag effeithiau’r newidiadau a chyfleodd newydd.
“Rydym wedi rhoi amrywiaeth eang o becynnau cymorth ar waith er mwyn cynyddu hyder busnesau ac i’w helpu i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael. Bydd ein Llinell Gymorth Ewropeaidd yn rhoi help masnach i gwsmeriaid a chyflenwyr a bydd safle Busnes Cymru yn parhau i fod ag adran benodedig ynghylch yr Undeb Ewropeaidd ac sy’n cynnwys cyngor, cymorth, cwestiynau cyffredin a chysylltiadau i ffynonellau cyngor eraill.”
Dywedodd Nick Speed, Pennaeth Materion Cyhoeddus, Nwy Prydain:
“Er bod pleidlais y DU o blaid gadael yr UE wedi creu peth ansicrwydd, credwn mai cyfyngedig yw’r effeithiau uniongyrchol yn y tymor byr. Rydym yn parhau i ymwneud mewn modd adeiladol â Llywodraeth Cymru er lles ein cwsmeriaid. Ein nod yw ehangu ein busnes yng Nghymru, gan gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni prosiectau a fydd yn ein helpu i ddefnyddio ynni’n effeithlon a hefyd brosiectau lleol ar gyfer cynhyrchu ynni.”
I drafod materion yn ymwneud â gadael yr UE, gall cwmnïau ffonio’r llinell gymorth – 03000 6 03000 neu anfon neges trwy’r wefan Busnes Cymru (dolen allanol).