Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates yn trefnu bod arweinwyr busnes a gwleidyddion dylanwadol o bob ochr ffin Cymru yn dod ynghyd heddiw
Cynhelir y gynhadledd drawsffiniol yng Ngholeg Cambria, Sir y Fflint a’i bwriad yw trafod sut y gallai mentrau sy’n fanteisiol i’r ddwy wlad gyflymu datblygiad yr economi bob ochr y ffin; mentrau fel moderneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, strategaeth datblygu economaidd drawsffiniol glir a thîm economaidd trawsffiniol cryf.
Bydd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, Guto Bebb, yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith yng Nghampws Llaneurgain, ynghyd â chynrychiolwyr nifer o sefydliadau busnes gan gynnwys Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI, CLlLC, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, cadeiryddion Ardaloedd Menter Cymru, Siambr Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a Dyfrdwy.
Wrth siarad cyn y Gynhadledd, meddai Ken Skates:
“Mae gen i uchelgeisiau economaidd mawr ar gyfer y Gogledd ac rwy’n benderfynol o wneud popeth y galla i i sbarduno ffyniant a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.
“Mae Pwerdy Gogledd Lloegr yn gyfle anferth i’r Gogledd ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru ran amlwg iawn ym mhob penderfyniad a chynnig datblygu er mwyn sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r rhanbarth.
“Rwyf am ddefnyddio’r gynhadledd i drafod yr amrywiaeth o ffyrdd allai, yn fy marn i, ein helpu i greu bwa o ffyniant o Gaergybi draw i Fanceinion a thu hwnt.
“Rhaid inni alinio’n blaenoriaethau â rhai Pwerdy Gogledd Lloegr, yn enwedig yng nghyd-destun bargen Twf y Gogledd, yn ogystal â datblygu’r cyfryngau gorau posib ar gyfer gweithio’n effeithiol ar draws ffiniau.
“Gallai hyn gynnwys sefydlu gweithgor trawsffiniol bychan i ddatblygu syniadau ac argymhellion y gynhadledd ac rwy’n disgwyl ymlaen at drafod y materion hyn ac eraill yng nghynhadledd heddiw.
“Mae hwn yn amser i edrych tua’r gorwel yn hyderus gyda’r un amcanion, a chan weithio fel sbardun i ddatblygu’r economi yn hytrach nag fel angor.”
Mae’r Gynhadledd hon yn dilyn cyhoeddi’r Adolygiad Economaidd Annibynnol o Bwerdy Gogledd Lloegr wythnos ddiwethaf.
Mae’r Adolygiad yn nodi’r meysydd y mae Gogledd Lloegr yn arweinydd byd ynddyn nhw a’r mesurau sydd eu hangen i wella economi’r rhanbarth. Dywed fod angen newid mawr i gau’r bwlch sgiliau a chynhyrchiant ac y gallai’r newidiadau hynny arwain o bosib at 850,000 o swyddi erbyn 2050.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb:
“Mae’r uwchgynhadledd heddiw yn adlewyrchu pwysigrwydd Gogledd Cymru a’i rôl o ran ei gyswllt â Phwerdy Gogledd Lloegr.
“Rydyn ni’n falch iawn cael gweithio yma ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru; bydd hyn oll ond yn ein helpu ni i gyflawni mwy ar gyfer yr ardal. Yn sgil canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd all gryfhau ein heconomi. Bydd dod i gytundeb ynghylch twf yn sicr yn helpu i ddatblygu economi’r rhanbarth ac yn gwneud y mwyaf posibl o’r cysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr. Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y Canghellor a’r cydweithio ar draws ffiniau. Mae hyn yn newyddion da iawn i’r Gogledd.”