Gwnaed newidiadau mawr i’r cymorth sy’n cael ei roi i fyfyrwyr sy’n dod o Gymru. Roedd hyn yn ymateb i’r Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Argymhellodd Adolygiad Diamond ein bod yn monitro ac yn gwerthuso’r gwaith o weithredu’r newidiadau, ac yn unol â hynny, fe luniwyd cynllun gwerthuso drafft.
Mae’r adolygiad gan gymheiriaid yn ardystio’r dull gweithredu a gynigir gennym i werthuso effaith y newidiadau mewn tri cham, fel a ganlyn:
- Cam paratoi sy’n mynd ati i sicrhau bod y systemau ar gyfer cynhyrchu a defnyddio gwybodaeth yn cael eu datblygu’n briodol i hwyluso gwerthuso effaith canol tymor ac effaith terfynol mewn ffordd drylwyr. I gynnwys parhad o gyfres Arolwg Incwm a Gwariant Myfyrwyr a sicrhau setiau data gweinyddol perthnasol.
- Cam gwerthuso canol tymor, sy’n canolbwyntio ar fesur allbynnau a deilliannau sy’n dod i’r amlwg, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddadansoddi‘r arolwg a’r data gweinyddol y sicrhawyd mynediad iddynt yn ystod y cyfnod paratoi, gyda gwaith ansoddol ychwanegol.
- Cam gwerthuso effaith terfynol, i fesur deilliannau ac effeithiau sy’n dod i’r amlwg, sydd eto’n seiliedig, gan fwyaf, ar ddadansoddi setiau data a gwaith ansoddol a sicrhawyd o’r blaen.
- Mae’r adolygiad gan gymheiriaid yn nodi’r ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar y modd mae myfyrwyr yn cyfrannu at addysg uwch, a’r heriau o ran nodi’r gwahaniaeth y mae cefnogaeth ariannol sy’n cael ei roi gennym ni yn ei chael.
- Mae’n argymell ychwanegu setiau data ac arolygon sydd wedi’u cynllunio drwy ddatblygu astudiaethau pellach er mwyn deall dewisiadau a phrofiadau myfyrwyr o ran addysg bellach yn well.
Adroddiadau
Adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer gwerthuso Diwygiadau Diamond i Gymorth i Fyfyrwyr - adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Sara James
Rhif ffôn: 0300 025 6812
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.