Fe wnaeth y gwerthusiad hefyd ystyried profiadau unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth gael mynediad i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'u barn ar effaith y gwasanaethau a ddarparwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig
Mae'r gwerthusiad yn canfod fod y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i raddau helaeth yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd. Er iddo gymryd amser i ddod yn weithredol, mae profiadau pobl sy'n defnyddio’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi gwella'n gyffredinol wrth i’r gwasanaethau ddatblygu. Ar hyn o bryd, mae'r gwerthusiad yn adrodd bod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn galonogol, cyn belled â bod gwasanaethau yn gallu ymdopi â’r galw, cadw staff a sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaeth y tu hwnt i 2021.
Mae’r papur rhagarweiniol hwn yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion mwy manwl.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol: canfyddiadau cychwynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1022 KB
Cyswllt
Nina Prosser
Rhif ffôn: 0300 025 5866
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.