Cysylltu â Llywodraeth Cymru
E-bost, ffôn a chyfeiriad post ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Cynnwys
Ymholiadau cyffredinol
Cymorth cwsmeriaid
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhif ffôn: 0300 0604400 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30yb i 5yp
E-bost: cymorth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwch yn derbyn ymateb yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Rhif ymholiadau rhyngwladol: (+44) 1443 845500
Gallwch siarad â ni gan ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid testun neu fideo.
Mae dolenni sain i’w cael yn ein swyddfeydd, neu os gysylltwch chi â ni cyn ichi ymweld gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yn bresennol.
Os oes angen i chi ymweld â ni yn bersonol ac na allwch ddod o hyd i ni o'n cyfeiriad, ffoniwch neu e-bostiwch ni am gyfarwyddiadau.
Ymddygiad annerbyniol
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd yr hawl i gael ei glywed, ei ddeall a’i barchu. Fodd bynnag mae gan ein staff yr un hawliau, felly osgowch:
- ymddygiad ymosodol a sarhaus, fel rhegi neu fygwth
- gofyn am bethau afresymol, mae amodau afresymol yn ei gwneud hi'n anoddach i ni ddarparu gwasanaeth da
- bod yn afresymol o ddyfal, mae ymholiadau tebyg ac ailadroddus yn amharu ar ein gallu i weithio effeithiol
Dysgwch fwy am yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid a sut y byddwn yn ymateb.