Neidio i'r prif gynnwy

Cofau cyfieithu

Cofau cyfieithu o fersiynau dwyieithog o ddeddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth a dogfennau cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

O'r dudalen hon a'r is-dudalennau cysylltiedig cewch gasgliadau o ffeiliau cof cyfieithu o ddeddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth a dogfennau cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cofau cyfieithu o ddeunyddiau unigol

Er hwylustod chwilio am y ffeiliau diweddaraf, maent wedi eu rhannu dros bedair is-dudalen, y gallwch gael gafael arnynt o'r rhestr ar ochr dde'r ddalen hon:

  • Cofau cyfieithu - Deddfau a Mesurau, sy'n cynnwys yr holl gofau cyfieithu o ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ar gael yn ddwyieithog
  • Cofau cyfieithu - Is-ddeddfwriaeth, sy'n cynnwys yr holl gofau cyfieithu o is-ddeddfwriaeth a ychwanegwyd i BydTermCymru o 2018 ymlaen
  • Cofau cyfieithu - Cyffredinol 2018-2021, sy'n cynnwys yr holl gofau cyfieithu o ddogfennau cyffredinol (hynny yw, nid deddfwriaeth) a ychwanegwyd i BydTermCymru rhwng 2018 a 2021
  • Cofau cyfieithu - Cyffredinol 2024 ymlaen, sy'n cynnwys y cofau cyfieithu o ddogfennau cyffredinol (hynny yw, nid deddfwriaeth) a ychwanegwyd i BydTermCymru o 2024 ymlaen

Ni ychwanegwyd cofau cyfieithu i BydTermCymru rhwng 2021 a 2024, ond cewch hyd i gofau cyfieithu o ddeunyddiau cyffredinol a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwn ar yr is-dudalen ar gyfer ffeiliau a ychwanegwyd o 2024 ymlaen. Yn achos cofau cyfieithu o ddeunyddiau cyffredinol, mae dyddiad ar bob ffeil yn dynodi'r dyddiad y'i hychwanegwyd i'r wefan.

Cofau cyfieithu cyfun

Ar waelod y dudalen hon, cewch hefyd dair ffeil cof cyfieithu gyfun. Mae'r rhain yn cynnwys yr holl ddeunyddiau a ychwanegwyd yn unigol ar yr is-dudalennau perthnasol a bydd y cofau cyfieithu cyfun yn cael eu diweddaru wrth ychwanegu cofau cyfieithu unigol i'r is-dudalennau hynny:

  • Cof cyfun - Deddfwriaeth sylfaenol. Diweddarwyd y cof hwn ddiwethaf ar 18/12/2024 ac mae'n cynnwys 64358 o segmentau cyfochrog.
  • Cof cyfun - Is-ddeddfwriaeth. Diweddarwyd y cof hwn ddiwethaf ar 14/10/2024 ac mae'n cynnwys 6704 o segmentau cyfochrog.
  • Cof cyfun - Cyffredinol. Diweddarwyd y cof hwn ddiwethaf ar 18/12/2024 ac mae'n cynnwys 92525 o segmentau cyfochrog.

Gwybodaeth gyffredinol

Ffeiliau TMX yw’r ffeiliau hyn. Ar ochr dde y dudalen hon, cewch ddolen i dudalen sy’n rhoi arweiniad ar fewnforio ffeiliau TMX i nifer o’r systemau cof cyfieithu mwyaf cyfarwydd.

Cyhoeddir y cofau hyn, fel holl adnoddau BydTermCymru, o dan y drwydded OGL. Ar ochr dde y dudalen hon, cewch ddolen i dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am y drwydded OGL

Byddwn yn ychwanegu cofau yn rheolaidd i’r casgliad. Dewch yn ôl yma yn rheolaidd er mwyn ychwanegu rhagor o’n cofau i’ch system gof cyfieithu chi.

Mae * yn enw’r cof yn dynodi nad yw’r cynnwys wedi ei brawfddarllen gan staff Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.

Mae ** yn dynodi mai dogfen o eiddo’r Senedd yw cynnwys y cof.