Gwybodaeth ynghylch achosion gofal (achosion 'Cyfraith Gyhoeddus')
Ceir achosion ‘Gofal'’ neu achosion ‘Goruchwylio’ lle mae Awdurdod Lleol wedi gwneud cais i’r llys teulu i amddiffyn plentyn pan fydd pryderon difrifol ynglŷn â diogelwch neu les y plentyn.
Gellir cymryd plant i mewn i ofal pan fydd pryderon diogelwch difrifol megis eu bod yn dioddef, neu yn debygol o ddioddef, niwed sylweddol oherwydd y ffordd y maent yn derbyn gofal, neu os ydynt y tu hwnt i reolaeth rhiant neu ofalwr.
Mae’r mathau o bryderon diogelwch difrifol a all arwain awdurdod lleol i wneud cais i’r llys i amddiffyn y plentyn yn cynnwys:
- Esgeulustod
- Cam-drin corfforol
- Cam-drin rhywiol
- Cam-drin emosiynol
Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi tystiolaeth i’r llys, yn esbonio eu pryderon dros y plentyn, ynghyd â chynllun sy’n rhoi manylion trefniadau diogel ar gyfer y plentyn ac unrhyw asesiadau y bydd efallai angen eu cynnal.
Bydd y llys yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i wneud y penderfyniad sy’n ddiogel i’r plentyn. Mae hyn yn cynnwys a oes angen gwneud gorchymyn i ddiogelu’r plentyn, ble y dylai’r plentyn fyw a’r trefniant cyswllt gyda’r teulu. Bydd y llys yn ceisio gwneud penderfyniad ynghylch yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i’ch plentyn o fewn 26 wythnos i wneud y cais. Yn ystod yr amser hwn bydd gweithwyr proffesiynol yn gwneud rhagor o waith i ddeall sefyllfa eich plentyn ymhellach ac yn gwneud argymhellion i gynorthwyo’r llys i wneud penderfyniadau terfynol ynglŷn â’r plentyn.
Bydd y canlyniad i’r plentyn fel rheol yn un o’r canlynol:
- Dychwelyd adref – os bydd diogelwch ac ansawdd rhianta wedi gwella
- Mynd i fyw gyda pherthynas yn nheulu ehangach y plentyn
- Mynd i fyw gyda rhiant maeth
- Cael ei fabwysiadu
Hawliau Plant (CCUHP) a’r gyfraith ynglŷn â phlant
Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sy’n amddiffyn hawliau dynol plant dan ddeunaw mlwydd oed. Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei gadarnhau gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UN) yn 1989.
Mae 54 erthygl yn y Confensiwn.
- Mae erthyglau 1-42 yn disgrifio sut y dylai plant gael eu trin.
- Mae erthyglau 43-45 yn ymwneud â’r ffordd y dylai oedolion a llywodraethau gydweithio i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei hawliau.
Cymorth a chefnogaeth
Rhowch eich adborth inni
Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.