Gwybodaeth i rieni sy’n byw ar wahân (achosion Cyfraith Breifat)
Weithiau gall teuluoedd ei chael yn anodd cytuno ynglŷn â’r hyn sydd orau i’w plant ac er mwyn gwneud pethau’n haws efallai y byddant yn gofyn i’r llys teulu eu cynorthwyo i ddatrys eu hanghytundeb.
Rhaglen Gweithio Gyda’n Gilydd er mwyn Plant (WT4C)
Cafodd rhaglen Gweithio gyda'n gilydd er mwyn Plant (WT4C) ei chreu er mwyn helpu teuluoedd i ddeall beth sydd ei angen fwyaf ar blant pan fyddent yn gwneud trefniadau i dreulio amser gyda rhieni sydd wedi gwahanu neu aelodau pwysig eraill o'u teulu.
Mae’r rhaglen ar gyfer oedolion sydd angen cymorth i ddod i gytundeb ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer eu plentyn/plant ac i ddysgu sut i reoli unrhyw anawsterau.
Gwasanaethau Cyswllt
Darperir Gwasanaethau Cyswllt gan sefydliadau annibynnol. Amgylcheddau sy'n canolbwyntio ar y plentyn ydynt, sy'n cynnig lleoedd diogel, cyfeillgar a niwtral i blant dreulio amser gyda rhieni neu bobl eraill sy'n bwysig iddynt. Maent yn cefnogi rhieni i'w helpu i flaenoriaethu anghenion eu plant ar ôl iddynt wahanu fel bod modd dod o hyd i ddatrysiadau hirdymor er mwyn i'r plant gadw mewn cysylltiad â'r ddau riant a'r teulu ehangach lle y bo'n ddiogel iddynt wneud hynny. Dim ond darparwyr Cyswllt sydd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Canolfannau Cyswllt i Blant y mae Cafcass Cymru yn atgyfeirio atynt ac yn cydweithio â nhw.
Cyswllt â chymorth
Lle nad oes materion risg, gallai teuluoedd ddewis hunanatgyfeirio at ganolfan gyswllt i blant a gefnogir ac ariannu hynny, er mwyn galluogi'r plant i gwrdd â rhiant neu aelod arall o'r teulu nad ydynt yn byw gydag ef a threulio amser gyda'r unigolyn hwnnw. Gall teuluoedd ddod o hyd i'w Canolfan Gyswllt i Blant achrededig leol drwy fynd i wefan y Ganolfan Gyswllt i Blant Cenedlaethol a defnyddio'r swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i Ganolfan Gyswllt i Blant.
Cyswllt dan oruchwyliaeth
Gellir defnyddio Gwasanaethau Cyswllt dan Oruchwyliaeth os oes angen lefel uwch o oruchwyliaeth am fod plentyn neu riant yn wynebu risg o niwed. Gellir hefyd ddefnyddio gwasanaethau dan oruchwyliaeth i ailgyflwyno plentyn i riant lle mae cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers i'r plentyn dreulio amser gyda'r rhiant. Bwriedir iddynt fod yn fesurau byrdymor, a ddefnyddir fel arfer fel rhan o asesiad i benderfynu a all trefniadau i blant a rhieni dreulio amser gyda'i gilydd barhau y tu allan i'r ganolfan gyswllt, a sut.
Bydd Cafcass Cymru yn gwneud atgyfeiriadau ar gyfer amser teulu dan oruchwyliaeth ac yn eu hariannu os bydd yr ymarferydd a neilltuwyd i'r achos yn penderfynu bod angen trefniadau dan oruchwyliaeth i'w helpu i gwblhau ei asesiad, neu os bydd y Llys yn gorchymyn iddo wneud atgyfeiriad. Bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar amgylchiadau unigol plentyn a'i deulu a bydd yn ystyried dymuniadau a theimladau'r plentyn.
Cyn gwneud unrhyw atgyfeiriad, bydd Cafcass Cymru yn cwblhau asesiad risg, a dim ond lle bo hynny'n ddiogel, yn addas, ac yn briodol ar gyfer yr asesiadau a gynhelir y bydd yn atgyfeirio teuluoedd. Bydd ymarferydd Cafcass Cymru yn ystyried nifer y sesiynau amser teulu dan oruchwyliaeth sy'n briodol a'u hyd, hyd at uchafswm o chwe awr.
Os ydych wedi cael eich atgyfeirio at wasanaeth cyswllt i blant neu os hoffech wybod mwy, ewch i wefan y Ganolfan Gyswllt i Blant Cenedlaethol am ragor o wybodaeth.
Profi DNA
Os bydd y llys teulu yn gorchymyn bod prawf DNA i gael ei gynnal i gadarnhau pwy yw rhiant y plentyn mewn achos Trefniant Plentyn (Adran 8), y trefniadau presennol yw y bydd y llys yn anfon cais i Cafcass Cymru ac y byddwn yn cyfarwyddo ein darparwr DNA Legal hyrwyddo casglu’r sampl DNA ar ran y llys.
Mae’r prawf am ddim.
Cymorth a chefnogaeth
Rhowch eich adborth inni
Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.